Cynllun Datblygu Lleol Gwynedd (y Cynllun newydd)
Yn dilyn penderfyniad gan Gyngor Gwynedd a Chyngor Sir Ynys Môn i ddod a’r cytundeb cydweithio ar faterion Polisi Cynllunio i ben ar 31 Mawrth 2023, mae Gwasanaeth Polisi Cynllunio Gwynedd wedi cael ei sefydlu.
Mae’r broses o baratoi Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) newydd ar gyfer ardal Awdurdod Cynllunio Lleol Gwynedd yn unig (sef yr ardal o Wynedd a leolir tu allan i Barc Cenedlaethol Eryri) wedi cychwyn. Bydd y CDLl newydd yn cwmpasu cyfnod rhwng 2024 a 2039. Mae Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn yn parhau i ddarparu'r fframwaith bolisi lleol ar gyfer penderfyniadau ar geisiadau cynllunio, hyd nes bydd Cynllun Datblygu Lleol Gwynedd yn cael ei fabwysiadu.
Yn unol â chanllawiau cenedlaethol, mae’n rhaid i Awdurdodau Cynllunio Lleol adolygu eu Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) mabwysiedig pob pedair blynedd a pharatoi Cynllun Diwygiedig. Mabwysiadwyd y Cynllun presennol, sef Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn ar 31 Gorffennaf 2017. Gan hynny, mae yna Adroddiad Adolygu wedi ei baratoi yn gysylltiedig â’r broses o baratoi Cynllun Datblygu Lleol newydd ar gyfer ddwy Ardal Awdurdod Cynllunio Lleol (Gwynedd ac Ynys Môn).
Mae’r Adroddiad Adolygu yn edrych ar yr holl dystiolaeth sydd yn berthnasol i’r CDLl ar y Cyd a dod i gasgliad ynglŷn â’r math o adolygiad bydd yn cael ei ddilyn. Nid yw’n yn manylu ar unrhyw newidiadau y bydd yn cael eu gwneud i’r Cynllun.
Roedd yr Adroddiad Adolygu Drafft yn destun cyfnod ymgynghori cyhoeddus o 5 Tachwedd hyd at 20 Rhagfyr 2021.
Cytunodd y Cyngor Llawn yn ei gyfarfod ar y 3 Mawrth 2022 i gyhoeddi’r Adroddiad Adolygu a’i gyflwyno i Lywodraeth Cymru.
Mae’r Adroddiad Adolygu ar gael i’w lawrlwytho:
Adroddiad Adolygu: Cynllun Datblygu Lleol Gwynedd a Môn (Mawrth 2022)
Ymhellach mae posib archwilio copi caled o’r ddogfen yn Siop Gwynedd Caernarfon, Pwllheli a Dolgellau.
Mae’n ofynnol dilyn nifer o gamau statudol fel rhan o’r broses o baratoi a mabwysiadu’r Cynllun Datblygu Lleol. Y cam gyntaf yn y broses yw paratoi Cytundeb Cyflawni. Rhennir y Cytundeb Cyflawni yn ddwy ran, sef:
- Amserlen o’r Camau Allweddol ar gyfer paratoi’r CDLl newydd; a
- Cynllun Cynnwys Cymunedau sydd yn nodi sut a pryd gall rhanddeiliaid a’r gymuned gyfrannu yn ystod y broses o baratoi’r Cynllun.
Cynhaliwyd cyfnod ymgynghori cyhoeddus ar y Cytundeb Cyflawni Drafft ynghyd a’r Asesiad Effaith ar Nodweddion Cydraddoldeb, y Gymraeg ac Anfantais Economaidd rhwng 26 Hydref 2023 a 7 Rhagfyr 2023.
Cymeradwywyd y Cytundeb Cyflawni terfynol ynghyd a’r Asesiad Effaith ar Nodweddion Cydraddoldeb, y Gymraeg ac Anfantais Economaidd gan Gyngor Gwynedd ar 7 Mawrth 2024. Mae cytundeb Llywodraeth Cymru i gynnwys y Cytundeb Cyflawni wedi ei dderbyn.
Safleoedd Posib
Cam allweddol yn y broses o baratoi Cynllun Datblygu Lleol yw adnabod safleoedd posibl ar gyfer ystod o ddefnyddiau tir, gan gynnwys tai, cyflogaeth a defnyddiau eraill fel rhai cymunedol a hamdden. Mae hefyd yn bwysig adnabod safleoedd sydd angen eu gwarchod oherwydd eu gwerth o safbwynt tirwedd arbennig, fel llecyn agored neu o ran cadwraeth.
Mae'r cyfnod Galw am Safleoedd Posib bellach ar agor ac mae'r Cyngor yn galw ar y cyhoedd, grwpiau cymunedol, tirfeddianwyr, a datblygwyr i gyflwyno safleoedd yn ffurfiol ar gyfer ystyriaeth i’w cynnwys yng Nghynllun Datblygu Lleol Gwynedd (CDLl).
Cyflwyno safle
Mae’n rhaid cyflwyno pob Safle Posib drwy ffurflen safonol. Mae'r Cyngor yn annog cynigwyr safle i gwblhau'r ffurflen Cyflwyno Safle Posib ar-lein:
Ffurflen ar-lein: Cyflwyno Safle posib.
Mae'r ffurflen ar-lein yn galluogi cynigwyr safle i gynhyrchu a chyflwyno map, cael gwybodaeth am gyfyngiadau, gweld nodiadau canllaw a lawr lwytho dogfennau cefnogol.
Fel arall gellir llawrlwytho copïau papur o'r ffurflen
Os hoffech drafod unrhyw agwedd, neu am gymorth i lenwi'r ffurflen gais, cysylltwch â'r Gwasanaeth Polisi Cynllunio:
Canllawiau a gwybodaeth am y Broses Safle Posib
Dylai unrhyw gynnig o Safle Posib rhoi sylw i'r canllawiau a'r wybodaeth ganlynol:
- Nodiadau Cyfarwyddyd Safleoedd Posib: Arweiniad ar gwblhau pob cwestiwn ar y ffurflen ac ar y wybodaeth ychwanegol y mae angen ei gyflwyno er mwyn cefnogi’r cynnig.
- Map Cyfyngiadau rhyngweithiol: Mae'r map wedi ei greu er mwyn nodi unrhyw bolisi allweddol a chyfyngiadau o ran safleoedd dynodedig. Bydd angen i gynigwyr safleoedd gyfeirio at y Map Cyfyngiadau er mwyn ymateb i gwestiynau perthnasol ar y Ffurflen Cyflwyno Safle Posib. Noder NA ddylid dibynnu ar y data hwn at ddibenion cyfreithiol ac efallai na fydd yn gwbl gyfoes â newidiadau a wnaed i ddata cyfyngiadau yn y Sir. Nid yw’r Cyngor yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw wall neu anghywirdeb a allai godi.
Y Gofrestr Safleoedd Posib
Bydd yr holl Safleoedd Posib a gyflwynir ar gael i'w archwilio ar y wefan o fewn yr hyn a elwir yn 'Gofrestr Safleoedd Posib'. Ni fydd unrhyw wybodaeth bersonol yn cael ei rhoi ar y gofrestr.
Bydd y cyfnod Galw am Safleoedd yn cau ar 2 Hydref 2024.
Cadw mewn cysylltiad
Os ydych yn dymuno derbyn gohebiaeth gan y Gwasanaeth Polisi Cynllunio mewn perthynas â’r broses o baratoi’r Cynllun Datblygu Lleol cysylltwch â’r Gwasanaeth Polisi Cynllunio er mwyn cofrestru eich manylion: polisicynllunio@gwynedd.llyw.cymru