Mae’r datganiad hwn yn berthnasol i wefan Cyngor Gwynedd, sef www.gwynedd.llyw.cymru , platfform hunanwasanaeth Cyngor Gwynedd: https://diogel.gwynedd.llyw.cymru/ yn ogystal â systemau trydydd parti eraill perthnasol.

Cyngor Gwynedd sy'n cynnal y wefan, ac rydym eisiau i gymaint o bobl â phosib allu ei defnyddio. Mae hyn yn golygu y dylech, er enghraifft, allu:

  • closio i mewn hyd at 300% heb i’r testun ddiflannu oddi ar y sgrin
  • llywio drwy’r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan (yn Saesneg) drwy ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiwn fwyaf diweddar o NVDA, TalkBack a VoiceOver)

Pa mor hygyrch ydi’r wefan

Rydym yn ymwybodol nad yw rhannau o’r wefan yn gwbl hygyrch:

  • Nid yw’r rhan fwyaf o’n PDFs yn hygyrch i feddalwedd darllen sgrîn – cysylltwch â ni os am eu derbyn mewn fformat gwahanol.
  • Nid yw rhai o’r fideos hŷn ar y wefan yn cynnwys is-deitlau.
  • Mae rhai o’n ffurflenni ar-lein yn anodd i’w llenwi drwy ddefnyddio bysellfwrdd a meddalwedd darllen sgrîn yn unig – cysylltwch â ni os am eu derbyn mewn fformat gwahanol.
  • Nid yw’n bosib llywio rhannau o’r wefan yn defnyddio bysellfwrdd.
  • Nid yw rhai dolenni na delweddau ar y wefan yn hygyrch.

Adborth a manylion cyswllt

Os ydych chi angen gwybodaeth ar y wefan hon mewn fformat gwahanol, er enghraifft, PDF hygyrch, print bras, fersiwn hawdd i’w ddarllen, braille ac yn y blaen, cysylltwch â:

Byddwn yn ystyried eich cais, ac yn ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Rhoi gwybod i ni am broblemau efo'r wefan

Rydym wastad yn chwilio am ffyrdd newydd o wella hygyrchedd ar y wefan. Os ydych yn dod ar draws problem sydd ddim yn cael ei rhestru ar y dudalen hon, neu os ydych yn teimlo nad ydym yn cwrdd â’r gofynion hygyrchedd, cysylltwch â ni:  gwefan@gwynedd.llyw.cymru (yn agor mewn tab newydd)

Gweithdrefn orfodi

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau ar gyfer Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os ydych yn anhapus â’r ffordd rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS). (yn agor mewn tab newydd)

Cysylltu â ni dros y ffôn neu wyneb yn wyneb

Mae nifer o wahanol ffyrdd o gysylltu â ni: www.gwynedd.llyw.cymru/cysylltu

Mae dolenni cyflwyno sain ar gael yn nerbynfeydd Siop Gwynedd.

Mae'n bosib gwylio rhai o'r tudalennau yn Iaith Arwyddion Prydeinig (BSL)

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd ar y wefan

Mae Cyngor Gwynedd wedi ymrwymo i wneud y wefan hon yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Mae’r datganiad hwn yn seiliedig ar asesiadau mewnol yn defnyddio y meddalwedd SiteImprove (yn agor mewn tab newydd) yn ogystal â chanfyddiadau asesiad hygyrchedd llawn gafodd ei gomisiynu gan The Digital Accessibility Centre (DAC) (yn agor mewn tab newydd)

Statws Cydymffurfiaeth

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol gyda safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.2 (yn agor mewn tab newydd) yn sgil yr hyn nad yw’n cydymffurfio a restrir isod.

Cynnwys nad yw'n hygyrch

Nid yw’r cynnwys sydd wedi ei nodi isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.
Ddim yn cydymffurfio â rheoliadau hygyrchedd:

  1. Dogfennau PDF(i) Does gan rai PDFs ddim Teitl Tudalen. Mae hyn yn golygu nad ydym yn cwrdd â meini prawf y WCAG 2.2 A criteria 2.4.2 Teitl tudalen. (ii) Mae problemau eraill gyda’n PDFs sydd yn golygu nad ydynt yn hygyrch i feddalwedd darllen sgrin. Rydym yn anelu i ddatrys hyn erbyn Ebrill 2026. Yn y cyfamser, os am dderbyn dogfennau mewn fformat gwahanol, Cysylltwch â ni.

Baich anghymesur

Ddim yn berthnasol. Nid ydym yn honni bod unrhyw faterion hygyrchedd yn afresymol i’w datrys.

Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd

PDFs a dogfennau eraill: Nid yw'r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni drwsio ffeiliau PDF neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydyn nhw'n hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau.

Cysylltwch â ni os am eu derbyn mewn fformat gwahanol.

Beth rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd

Rydym yn trwsio cynnwys sy'n methu â chyrraedd canllaw 2.2 A a 2.2 AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fel mater o frys. Byddwn yn diweddaru'r datganiad hygyrchedd hwn wrth i faterion gael eu datrys.

Paratoi y datganiad hygyrchedd hwn

Cafodd y datganiad hwn ei lunio ar 1 Gorffennaf 2026.
Aeth y wefan hon yn fyw ar 1 Gorffennaf 2026. Yn ystod yr wythnosau nesaf bydd y wefan yn cael ei phrofi gan Siteimprove.com (yn agor mewn tab newydd).
Byddwn yn diweddaru'r datganiad hwn cyn diwedd Medi 2026.

Bydd sampl o dudalennau hefyd yn cael eu profi yn defnyddio: