Yn dilyn penderfyniad gan Gyngor Gwynedd a Chyngor Sir Ynys Môn i ddod a’r cytundeb cydweithio ar faterion Polisi Cynllunio i ben ar 31 Mawrth 2023, mae Gwasanaeth Polisi Cynllunio Gwynedd wedi cael ei sefydlu.
Mae’r broses o baratoi Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) newydd ar gyfer ardal Awdurdod Cynllunio Lleol Gwynedd yn unig (sef yr ardal o Wynedd a leolir tu allan i Barc Cenedlaethol Eryri) wedi cychwyn. Bydd y CDLl newydd yn cwmpasu cyfnod rhwng 2024 a 2039. Mae Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn yn parhau i ddarparu'r fframwaith bolisi lleol ar gyfer penderfyniadau ar geisiadau cynllunio, hyd nes bydd Cynllun Datblygu Lleol Gwynedd yn cael ei fabwysiadu.
Safleoedd Posib
Cam allweddol yn y broses o baratoi Cynllun Datblygu Lleol yw adnabod safleoedd posibl ar gyfer ystod o ddefnyddiau tir, gan gynnwys tai, cyflogaeth a defnyddiau eraill fel rhai cymunedol a hamdden. Mae hefyd yn bwysig adnabod safleoedd sydd angen eu gwarchod oherwydd eu gwerth o safbwynt tirwedd arbennig, fel llecyn agored neu o ran cadwraeth.
Mae'r cyfnod Galw am Safleoedd nawr ar gau.
Cysylltwch â'r Gwasanaeth Polisi Cynllunio os ydych yn dymuno cyflwyno safle hwyr:
- Ebost: polisicynllunio@gwynedd.llyw.cymru
- Ffôn: (01766) 771000
Canllawiau a gwybodaeth am y Broses Safle Posib
Dylai unrhyw gynnig o Safle Posib rhoi sylw i'r canllawiau a'r wybodaeth ganlynol:
- Nodiadau Cyfarwyddyd Safleoedd Posib(yn agor mewn tab newydd) (yn agor mewn tab newydd): Arweiniad ar gwblhau pob cwestiwn ar y ffurflen ac ar y wybodaeth ychwanegol y mae angen ei gyflwyno er mwyn cefnogi’r cynnig.
- Map Cyfyngiadau rhyngweithiol(yn agor mewn tab newydd) (yn agor mewn tab newydd): Mae'r map wedi ei greu er mwyn nodi unrhyw bolisi allweddol a chyfyngiadau o ran safleoedd dynodedig. Bydd angen i gynigwyr safleoedd gyfeirio at y Map Cyfyngiadau er mwyn ymateb i gwestiynau perthnasol ar y Ffurflen Cyflwyno Safle Posib. Noder NA ddylid dibynnu ar y data hwn at ddibenion cyfreithiol ac efallai na fydd yn gwbl gyfoes â newidiadau a wnaed i ddata cyfyngiadau yn y Sir. Nid yw’r Cyngor yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw wall neu anghywirdeb a allai godi.
- Methodoleg Asesu Safleoedd Posib(yn agor mewn tab newydd) (yn agor mewn tab newydd): Dogfen sy'n nodi’r broses, y meini prawf asesu, a'r fethodoleg i'w defnyddio gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol i bennu addasrwydd Safleoedd Posib i'w cynnwys fel Safleoedd a Ddynodwyd yn y CDLl newydd.
- Asesiad Effaith ar Nodweddion Cydraddoldeb, y Gymraeg ac Anfantais Economaidd(yn agor mewn tab newydd) (yn agor mewn tab newydd)
Y Gofrestr Safleoedd Posib
Mae'r Gofrestr Safleoedd Posib (CSP) yn cynnwys manylion yr holl safleoedd a gyflwynwyd yn ystod y cyfnod ‘Galw am Safleoedd’. Nodir rhif cyfeirnod y safle, enw’r safle, lleoliad, arwynebedd (ha) a manylion y defnydd a awgrymir gan y cynigydd o'r Safle Posib ar y Gofrestr.
Rhennir y gofrestr fesul ardal cyngor dinas, tref a chymuned. Amlygir y gall rhai safleoedd a leolir ar ymyl anheddle fod wedi ei leoli o fewn ffiniau ardal cyngor cymuned gyfagos. Gan hynny, awgrymir eich bod yn archwilio’r safleoedd sydd wedi ei gyflwyno yn yr ardal mae gennych ddiddordeb ynddo ynghyd a’r ardal gyfagos. Mae map o’r cynghorau cymuned i’w weld ar ddechrau’r gofrestr.
Os nad yw cyngor cymuned wedi'i restru isod, ni chyflwynwyd unrhyw safleoedd posib o fewn ardal y cyngor cymuned benodol hwnnw.
Mae CDLl Gwynedd yn berthnasol i ardal Awdurdod Cynllunio Lleol Gwynedd yn unig (nid yw’n cynnwys yr ardal o Wynedd a leolir o fewn ffiniau Parc Cenedlaethol Eryri).
Sylwch nad yw'r gofrestr hon yn ddogfen ymgynghori gyhoeddus; datganiad o ffaith yn unig ydyw o'r holl safleoedd posib a gyflwynwyd. Ni fydd y Cyngor yn trafod rhinweddau neu fanteision ac anfanteision safleoedd unigol gan y byddai hyn yn gynamserol yn y cam hwn o baratoi'r cynllun.
Nid yw gosod y safle ar y Gofrestr Safleoedd Posib yn ymrwymo Cyngor Gwynedd i ddwyn y safle ymlaen i CDLl Gwynedd.
Cadw mewn cysylltiad
Os ydych yn dymuno derbyn gohebiaeth gan y Gwasanaeth Polisi Cynllunio mewn perthynas â’r broses o baratoi’r Cynllun Datblygu Lleol, cysylltwch â’r Gwasanaeth Polisi Cynllunio:
- Ebost: polisicynllunio@gwynedd.llyw.cymru
- Ffôn: (01766) 771000