Mae gan Archifdai Gwynedd ystod eang o ddogfennau, lluniau, mapiau a phapurau newydd.

Chwilio a phori drwy'r catalog archifau ar-lein (yn agor mewn tab newydd)

Canran yn unig o'r catalogau sydd yma, gellir gweld rhestr o'r casgliadau a gedwir yn yr Archifdai isod.

Archifdy Caernarfon

Oriau agor Archifdy Caernarfon
DiwrnodOriau agor
Dydd LlunAr gau
Dydd MawrthAr gau
Dydd Mercher9:30 - 12:3013:30 - 17:00
Dydd Iau9:30 - 12:30 13:30 - 17:00
Dydd Gwener9:30 - 12:30 13:30 - 17:00

Archifdy Meirionnydd

Oriau Agor Archifdy Meirionnydd
DiwrnodOriau agor
Dydd Llun9:30 - 12:3013:30 - 17:00
Dydd Mawrth9:30 - 12:3013:30 - 17:00
Dydd MercherAr Gau
Dydd IauAr Gau
Dydd GwenerAr Gau

Ymchwil Ar-lein

Os oes gennych ddiddordeb yn hanes lleol Gwynedd, neu eisiau canfod hanes eich teulu mae’r catalog archifau ar-lein yn cynnwys dros 12,000 o dudalennau a 2,000 o ddelweddau.

Catalog archifau ar-lein (yn agor mewn tab newydd)

Canran yn unig o'r catalogau sydd yma, gellir gweld rhestr o'r casgliadau a gedwir yn yr Archifdai isod.

Os nad ydych yn gallu darganfod yr hyn ydych eisiau cysylltwch â'r Archifdai.

Isod mae canllawiau i gynorthwyo eich ymchwil:

Ymweld â'r Archifdy

Mae modd copïo'r mwyafrif o ddeunydd. Cost llungopi yw 30c y dudalen. Gweler y daflen amodau a phrisiau copïo, a’r ffurflenni isod i wneud cais am gopïau. Nid ydym yn caniatáu defnyddio cyfarpar tynnu lluniau a sganio.

Gwasanaeth ymchwil

Os yw’n amhosib i chwi ddod i’r Archifdy, gallwn gynnig gwasanaeth ymchwil drwy’r post am ffi. Cysylltwch i drafod eich ymchwil drwy unai e-bostio archifau@gwynedd.llyw.cymru neu ffonio Archifdy Caernarfon (01286) 679 095 neu Archifdy Meirionnydd (01341) 424 682.

Gwasanaeth Cadwraeth

Mae’r Uned Gadwraeth yn atgyweirio dogfennau a rhwymo llyfrau i’r Gwasanaeth Archifau yr cyhoedd a sefydliadau amrywiol. Am fwy o wybodaeth e-bostiwch archifdycaernarfon@gwynedd.llyw.cymru neu ffoniwch (01286) 679 095.

Adneuo Casgliadau

Mae llawer o’r cofnodion yr ydym yn gofalu amdanynt wedi eu rhoi i ni neu wedi eu hadneuo gan aelodau’r cyhoedd, busnesau, sefydliadau a chymdeithasau. Os oes gennych chi ddogfennau sy’n ymwneud a phobl neu ardaloedd yng Ngwynedd yr hoffech chi eu diogelu yna gallwch eu hychwanegu at ein casgliadau. Gallwch roi eich dogfennau i ni’n rhodd neu eu hadneuo i ni ar fenthyg.

Gwasanaeth addysg

Gall y Swyddog Addysg ymweld ag ysgol i wneud cyflwyniad yn seiliedig ar ddelweddau amrywiol o gasgliad yr archifdai, yn hen luniau, mapiau, papurau newydd a dogfennau eraill o bob math. Yn ogystal, gellir darparu copïau o ddeunydd o gasgliad yr archifdai i ateb gofynion ysgol unigol.

Mae croeso hefyd i ysgolion ymweld ag archifdai’r sir yng Nghaernarfon a Dolgellau a chael taith dywys o gwmpas.

I drefnu ymweliad i'r Archifdy, i Amgueddfa Lloyd George neu i Amgueddfa Gwynedd, Bangor cysylltwch â'r gwasanaeth addysg:

Cymru a’r Môr

Mae’r Gwasanaeth Archifau yn cyhoeddi Cymru a’r Môr yn flynyddol sef cyfrol sy’n cynnwys erthyglau yn ymwneud a hanes morwrol Cymru.

Polisïau

Mae ein polisïau i'w gweld yma: