Amgueddfa Lloyd George
Mae'r eitemau yn Amgueddfa Lloyd George a Highgate, cartref ei blentyndod, yn ein helpu i ddeall bywyd ac amseroedd y cyn-Brif Weinidog o 1863 - 1945.
Yma gallwch weld arddangosfa unigryw o wrthrychau yn adrodd ei stori – casgedau a sgroliau wedi'u haddurno'n wych ac yn unigryw a gyflwynwyd iddo fel anrhydeddau dinas, megis model arian syfrdanol o Gastell Cricieth a gyflwynwyd gan y dref.
Arddangosir hefyd, medalau, paentiadau, lluniau, dogfennau fel Cytundeb Versailles, 'Coron Lloyd George' (y pensiwn cyntaf a ddosbarthwyd yng Nghymru), gwisgoedd ac eitemau personol. Dysgwch sut y daeth Lloyd George i sylw cenedlaethol oherwydd giât oedd dan glo yn Llanfrothen a chael golwg ar helmed y plismon a wisgodd Lloyd George i ddianc rhag torf blin yn Birmingham. Gewch ymweld a’r ardd lle tyfodd Lloyd George lysiau fel plentyn a gweld gosodiad celf o 2019, 'Rhif 10'.
Taith Gerdded Lloyd George
Oriau agor
Mae’r Amgueddfa ar agor rhwng Pasg a’r Hydref. Rydym yn argymell eich bod yn ffonio cyn ymweld.
Mynediad olaf un awr cyn cau.
Ebrill – Mai
10:30 - 17:00, Llun – Gwener (Sadwrn a Sul hefyd ar benwythnos Gŵyl Banc)
Mehefin
10:30 - 17:00, Llun – Sadwrn
Gorffennaf - Awst
10:30 - 17:00, Llun – Sul
Medi
10:30 - 17:00, Llun - Sul
Hydref
10:30 - 16:00, Llun-Gwener
Pris mynediad
Prisiau Amgueddfa Lloyd George
Oedran | Pris |
Oedolion |
£8.50 |
Plant |
£4.50 |
Rhai dros 65 / Myfyrwyr |
£7.50 |
Tocyn Teulu |
£20.00 |
Dod o hyd i ni
- Cyfeiriad: Amgueddfa Lloyd George, Llanystumdwy, Cricieth, Gwynedd, LL52 0SH (Map)
Cysylltu â ni
Cyfle i’r plant:
- ddysgu am y gwladweinydd enwog
- gwisgo dillad Fictoraidd
- mwynhau gwers yn y dosbarth Fictoraidd
- dysgu mwy am grefft y crydd yng ngweithdy Yncl Lloyd
- coginio ar y tân agored
- golchi dillad â thwb, doli bren a mangl
Darperir gwasanaeth addysg llawn a phecyn gwybodaeth i athrawon ymlaen llaw, sy’n cynnwys taflenni gwaith a gwybodaeth.
Addas ar gyfer CAau 1, 2 a 3 mewn sawl pwnc ar y cwricwlwm, a TGAU / Lefel A Hanes.
Cysylltu â'r gwasanaeth addysg
Ymunwch â'r Cyfeillion er mwyn helpu i gadw'r cof am Lloyd George yn fyw. Rydym yn:
- cefnogi a chynorthwyo datblygiad yr Amgueddfa a'i defnydd addysgiadol, a chefnogi datblygiadau newydd
- trefnu a hyrwyddo darlithoedd a digwyddiadau
- codi arian at brynu eitemau addas i'w harddangos a hybu ymchwil
Lawrlwytho ffurflen ymaelodi
- Cadeirydd - Philip George
- Is-gadeirydd - Merfyn Jones
- Trysorydd - Nesta G Jones
- Ysgrifennydd - Elizabeth George
Cyfeillion Amgueddfa Lloyd George, Llanystumdwy, Cricieth, Gwynedd, LL52 0SH
01766 522071