Polisi Gwirfoddoli Gwasanaeth Archifau Gwynedd
Datganiad Cenhadaeth
Pwrpas Gwasanaeth Archifau Gwynedd yw gwarchod etifeddiaeth archifol y sir drwy gasglu, cadw, rhoi mynediad a hyrwyddo defnydd o'r archifau fel bod modd i bawb ddarganfod, dysgu a deall mwy am eu hunain a’u bro
Pwrpas y Polisi
Mae’r Gwasanaeth yn ymrwymo i ddatblygu, annog a chefnogi gwaith gwirfoddol ble a phryd mae hynny’n addas. Drwy wneud hyn yr ydym yn cydnabod mae bwriad gwaith gwirfoddol yw i gyfrannu at waith y Gwasanaeth ac nid i ymgymryd â dyletswyddau staff cyflogedig. Yn y polisi hwn yr ydym yn diffinio swyddogaethau'r Gwasanaeth a’r Gwirfoddolwyr.
Rôl y Gwirfoddolwyr
- Gall gwirfoddolwyr wneud cyfraniad gwerthfawr i waith y Gwasanaeth Archifau a gallant elwa o ddatblygu sgiliau, hyder a diddordebau.
- Gweler fod nifer o gyfleon o dderbyn gwirfoddolwyr i ymgymryd â thasgau archifyddol, ond mae’n hanfodol fod y Gwasanaeth a’r gwirfoddolwr yn elwa o’r trefniant.
- Mae’n hanfodol fod y Gwasanaeth yn parchu’r gwirfoddolwr a’r gwirfoddolwr yn deall anghenion y Gwasanaeth, staff a’r defnyddwyr.
Gwirfoddoli
- Gofynnir i wirfoddolwyr gwblhau ffurflen gais.
- Gofynnir i wirfoddolwyr ymweld â’r Archifdy i drafod gwaith gwirfoddol fel bod modd adnabod sgiliau a chryfderau'r gwirfoddolwr ac felly adnabod gwaith a fydd yn addas.
- Mae gan y Gwasanaeth hawl i beidio derbyn gwirfoddolwr neu i ddod a’r trefniant i ben.
- Disgwylir i’r gwirfoddolwr ddilyn rheolau a pholisïau Cyngor Gwynedd
- Ni dderbynnir gwirfoddolwr heb ganiatâd terfynol y Prif Archifydd.
Goruchwyliaeth a Chefnogaeth
- Derbynnir gwirfoddolwyr i ymgymryd â thasgau'r Gwasanaeth Archifau pan fo hynny’n addas.
- Apwyntir aelod o staff i osod a goruchwylio gwaith y gwirfoddolwr.
- Nodir y tasgau a’r hyn a ddisgwylir i’w gyflawni erbyn diwedd y cyfnod gwirfoddol.
- Trefnir unrhyw hyfforddiant cyn ymgymryd â'r gwaith. Os yw'n berthnasol, gall gwirfoddolwyr gymryd rhan mewn unrhyw hyfforddiant staff sydd wedi'i amserlennu yn ystod eu lleoliad.
- Ar ddechrau'r lleoliad bydd gwirfoddolwyr yn derbyn anwythiad iechyd a diogelwch llawn.
- Nodir y cyfnod gwirfoddol yn glir fel bod y gwirfoddolwr a’r Gwasanaeth yn ymwybodol ac yn gytûn ar yr hyn a ddisgwylir yn ystod y cyfnod gwirfoddol.
- Disgwylir i’r gwirfoddolwr gadw at yr amserlen a osodir a hysbysu’r Gwasanaeth o unrhyw newidiadau.
- Perthynir unrhyw waith a greuir yn ystod y cyfnod gwirfoddoli i’r Gwasanaeth Archifau.
Adolygiad
Cymeradwywyd y polisi hwn gan Bennaeth Economi a Chymuned yn 2025. Bydd yn cael ei adolygu ymhen 5 mlynedd neu ynghynt pe byddai amgylchiadau yn gwneud hynny’n angenrheidiol.