Polisi Addysg Gwasanaeth Archifau Gwynedd

Datganiad Cenhadaeth

Pwrpas Gwasanaeth Archifau Gwynedd yw gwarchod etifeddiaeth archifol y sir drwy gasglu, cadw, rhoi mynediad a hyrwyddo defnydd o'r archifau fel bod modd i bawb ddarganfod, dysgu a deall mwy am eu hunain a’u bro.

 

Gweledigaeth Gwasanaeth Addysg

Mae Gwasanaeth Addysg Archifau Gwynedd wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth llawn ac effeithiol yn Archifdai Gwynedd, a thrwy hynny feithrin a chyfoethogi dealltwriaeth pobl o'u hanes a'u hetifeddiaeth, a gwasanaethu'r gymuned yn ysgolion a cholegau lleol yn ogystal â'r cyhoedd yn gyffredinol.

 

Nodau

  • Hybu gwell ymwybyddiaeth o natur a swyddogaeth yr archifau a'u casgliadau.
  • I hyrwyddo'r defnydd a wneir o'r archifau gan ysgolion a cholegau, ac o'r casgliadau a’r dogfennau a gedwir.
  • Galluogi'r archifau i wneud y mwyaf o botensial addysgiadol eu casgliadau a'u hadnoddau.

 

Amcanion

  • Sicrhau fod addysg yn cael ei weld fel swyddogaeth graidd yn yr archifau, ac yn rhan annatod o'r broses rheoli a chynllunio.
  • Datblygu gweithgareddau addysgiadol sydd wedi eu targedu at anghenion ysgolion a cholegau.
  • Bod yn ymwybodol o ddatblygiadau newydd mewn addysg ffurfiol ac addasu defnydd a wneir o archifau mewn ymateb i'r datblygiadau.
  • Cadw cyswllt agos â gweithwyr proffesiynol eraill ym maes addysg archifau, a maes addysg yn gyffredinol.
  • Datblygu rhaglen HMS effeithiol i amlygu cyfraniad archifau a gweithgareddau addysgiadol archifau i'r Cwricwlwm Cenedlaethol.

 

Cynulleidfaoedd

Bydd Swyddog Addysg yn cyfoethogi’r gwasanaeth i holl aelodau'r cyhoedd sy'n ymweld â'r archifau, ond bydd yn canolbwyntio ar ddarparu gwasanaeth i'r grwpiau canlynol:

  • disgyblion ac athrawon ysgolion Gwynedd, ar lefel gynradd ac uwchradd
  • grwpiau addysg oedolion
  • sefydliadau addysgol y telir amdanynt gan Gyngor Gwynedd yn llawn neu yn rhannol neu drwy unrhyw ffynhonnell arall gan y Cyngor.

 

Darpariaeth

Darperir gwasanaeth addysg lawn i dargedu'r cynulleidfaoedd uchod fel a ganlyn:

  • gwasanaeth ceisiadau am adnoddau i'r ysgolion
  • teithiau tywys yn yr archifdai
  • gweithgareddau addysgiadol i ateb anghenion y Cwricwlwm Cenedlaethol
  • pecynnau adnoddau addysgol i ysgolion yn  seiliedig ar y Cwricwlwm  Cenedlaethol
  • gwasanaeth ymgysylltu drwy ymweliadau gydag ysgolion a cholegau
  • arddangosfeydd dros dro

 

Hyfforddi

Bydd y Swyddog Addysg yn cyfoethogi'r gwasanaeth trwy sicrhau rhaglen hyfforddi i staff ac aelodau sefydliadau addysg trwy'r dulliau isod:

  • cymryd  rhan mewn cyrsiau addysg archifau arbennig
  • annog, cymryd rhan a darparu Hyfforddiant Mewn Swydd i athrawon er mwyn esbonio gwerth archifau mewn addysg ac amlinellu eu darpariaeth a sgôp eu gwasanaeth
  • rhoi cyfle i ysgolion, colegau a phrifysgolion ddefnyddio archifai i roi profiad i'w myfyrwyr mewn amgylchedd gwaith fel paratoad ar gyfer gyrfa yn y dyfodol.  Mae hyn yn cynnwys cynlluniau profiad gwaith a chymryd rhan mewn cynlluniau partneriaeth

 

Marchnata

Er mwyn rhoi gwybod i'r cyhoedd am natur y gwasanaethau a ddarperir, ac i ddenu cynulleidfaoedd newydd, bydd yr Gwasanaeth Archifau yn hybu’r gwasanaeth addysg fel a ganlyn:

  • cyfleoedd hyfforddi i ysgolion
  • cymryd rhan mewn cyrsiau a drefnwyd  gan y gwasanaeth addysg ymgynghorol
  • cymryd rhan mewn cyrsiau i ddarpar-athrawon yng ngholegau a phrifysgolion y sir

 

Gwerthuso

Rhaid gwerthuso'r gwasanaeth er mwyn gwneud yn siŵr ei fod yn parhau'n effeithiol.  Gwneir hynny fel a ganlyn:

  • cofnodion manwl o ffigyrau ymwelwyr
  • holiadur wedi pob ymweliad neu gais am adborth
  • arsylwi
  • cymryd rhan yn nangosyddion perfformiad y Gwasanaeth Archifau a’r cynllun gwelliannau
  • cofnod manwl o'r nifer o geisiadau am adnoddau gan unigolion, ysgolion a cholegau

 

Adolygiad 

Cymeradwywyd y polisi hwn gan Bennaeth Economi a Chymuned yn 2025.

Bydd yn cael ei adolygu ymhen 5 mlynedd neu ynghynt pe byddai amgylchiadau

yn gwneud hynny’n angenrheidiol.