De Gwynedd i fod yn rhan o ardal Eisteddfod Genedlaethol 2027

Dyddiad: 14/01/2026

Mae Cyngor Gwynedd wedi croesawu’r newyddion y bydd de’r sir yn rhan o fwrlwm Eisteddfod Genedlaethol 2027, pan bydd yr wŷl yn dod i ardal Glantwymyn.

Mewn cyfarfod cyhoeddus nos Fawrth (13 Ionawr), rhannwyd y newyddion bydd dalgylch yr ŵyl yn 2027 yn ymestyn i’r gogledd cyn belled a’r afon Mawddach. Golygai hyn y bydd De Meirionnydd – gan gynnwys Dolgellau, Bala, Tywyn, Aberdyfi a’r Bermo – yn rhan o ardal yr Eisteddfod.

Dyma’r tro cyntaf i ran o Wynedd fod yn rhan o ddalgylch Eisteddfod Genedlaethol sy’n cael ei chynnal mewn sir arall, ac mae cryn edrych ymlaen yn barod am y manteision diwylliannol, cymdeithasol ac economaidd a ddaw yn ei sgil.

Y tro diwethaf i’r ŵyl ymweld â de Gwynedd oedd Eisteddfod Meirion a’r Cyffiniau, 2009.

Dywedodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, Arweinydd Cyngor Gwynedd:

“Rydan ni’n dymuno’n dda i’n cymdogion dros Bont ar Ddyfi gyda’r trefniadau ar gyfer yr Eisteddfod. Mae Awst 2027 yn teimlo yn bell, ond gwyddwn o brofiad gyda Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd 2023 y bydd yr amser yn gwibio ac edrychwn ymlaen at y bwrlwm o weithgareddau a pharatoadau dros y misoedd nesaf.

“Bydd cynlluniau’r pwyllgorau gwaith lleol yn cael eu cyhoeddi maes o law a dwi’n siŵr y bydd pobl de Meirionnydd yn awyddus i gyfrannu eu hamser, brwdfrydedd a’u profiad wrth helpu i’w gwneud yn Eisteddfod i’w chofio.

“Rydw i’n gwybod y bydd cefnogaeth arbennig ymysg cymunedau de Meirionnydd i gael yr ŵyl unigryw hon ar garreg y drws, ac y bydd pobl leol yn edrych ymlaen at groesawu cystadleuwyr ac ymwelwyr o bob rhan o Gymru a thu hwnt i’r fro. Fel y rydan ni wedi weld yn Llŷn ac Eifionydd, bydd dylanwad a buddion yr ŵyl i’w teimlo ar draws yr ardal am flynyddoedd i ddod.”

Cynhelir yr Eisteddfod o 31 Gorffennaf - 7 Awst 2027, ac mae rhagor o wybodaeth ar sut i ymuno â'r tîm ar wefan yr Eisteddfod: www.eisteddfod.cymru