Dathlu llwyddiant y gyrrwr rali Elfyn Evans

Logo Gwynedd
Uned y Wasg, Cyngor Gwynedd

Cynhaliwyd digwyddiad arbennig yn Nolgellau neithiwr (15 Hydref) i ddathlu llwyddiant y gyrrwr rali o Ddinas Mawddwy, Elfyn Evans, wedi iddo ennill pencampwriaeth ralïo’r byd yn Sardinia yn ddiweddar.

Diolch i bawb oedd ynghlwm â’r trefniadau ac i bawb a ddaeth yno i ddathlu ac i longyfarch Elfyn.

Dywedodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, Arweinydd Cyngor Gwynedd:

Hoffwn longyfarch Elfyn Evans yn wresog am ei lwyddiant hanesyddol. Mae ei gamp ryfeddol wedi tynnu sylw rhyngwladol at Wynedd.

“Mae’n destun balchder mawr mai Elfyn ydi’r Cymro cyntaf erioed i gipio'r goron yn y bencampwriaeth yma.

“Roedd neithiwr yn gyfle i’r gymuned leol a Gwynedd gyfan ddod ynghyd i ddathlu a chydnabod y llwyddiant arbennig hwn.”

Car rali Elfyn Evans Dolgellau

Ychwanegydd y Cynghorydd Elin Walker Jones, Cadeirydd Cyngor Gwynedd:

Roedd yn fraint cael bod yno neithiwr i groesawu Elfyn yn ôl i’w gymuned ac i ddathlu ei lwyddiant. Mae ei esiampl yn dangos beth sy’n bosib drwy waith caled, ac yn ysbrydoliaeth i’r genhedlaeth nesaf i anelu’n uchel a chredu yn eu potensial eu hunain.

“Hoffwn ddiolch i Tîm Elfyn am gydlynu’r digwyddiad ac i Gyngor Tref Dolgellau am eu cydweithrediad.”