Nodi blwyddyn ers cyhoeddi adroddiad Cyfiawnder Trwy Ein Dewrder

Logo Gwynedd
Uned y Wasg, Cyngor Gwynedd

Flwyddyn ers cyhoeddi adroddiad annibynnol ac hollbwysig Cyfiawnder Trwy Ein Dewrder, mae Cyngor Gwynedd yn hyderus fod plant a phobl ifanc y sir yn fwy diogel heddiw ar ôl cyflawni nifer o welliannau i drefniadau diogelu. Mae’r gwelliannau hyn yn cynnwys gweithio gyda’r NSPCC i ddatblygu hyfforddiant arbenigol nad oedd yn bodoli yng Nghymru yn flaenorol a buddsoddi i greu tîm arbenigol o swyddogion sydd yn cefnogi ysgolion gyda materion diogelu plant.

Ond mae’r Cyngor yn pwysleisio na fyddant yn gorffwys ar eu rhwyfau ac y bydd diogelu plant yn parhau yn brif flaenoriaeth iddynt.

Roedd adroddiad Cyfiawnder Trwy Ein Dewrder, a gyhoeddwyd yn Nhachwedd 2025, yn gwneud 27 o argymhellion pwysig, gyda’r gofyn i Gynghorau Cymru gyflawni naw o’r rhain. Erbyn hyn, mae Cyngor Gwynedd wedi cyflawni wyth o’r naw argymhelliad yn llawn a bydd yr argymhelliad olaf wedi ei gwblhau cyn diwedd y flwyddyn.

Mae’r 17 argymhelliad arall yr adroddiad yn faterion rhanbarthol a chenedlaethol, ond mae Cyngor Gwynedd wedi mynd i’r afael â’r argymhellion hynny hefyd ac wedi cyflawni 12 ohonynt eu hunain.

Dros y 12 mis diwethaf, ymysg newidiadau eraill, mae Cyngor Gwynedd wedi:

  • gweithio gyda'r NSPCC i ddatblygu hyfforddiant arbenigol ar gam-feithrin ("grooming"), gan lenwi bwlch lle nad oedd pecyn hyfforddiant cenedlaethol addas yn bodoli;
  • sicrhau fod llais y plentyn yn cael ei glywed yn glir pan fo pryderon yn cael eu codi am eu diogelwch;
  • sefydlu Fforwm Ieuenctid Gwynedd i roi llais i bobl ifanc gyfrannu at benderfyniadau ar draws y Cyngor;
  • buddsoddi mewn tîm arbenigol sy'n ymweld â phob ysgol yn rheolaidd i wirio bod trefniadau diogelu yn gweithio'n effeithiol a bod y safonau diogelu uchaf yn cael eu cynnal;
  • cynyddu'r nifer o swyddogion sy’n cefnogi Llywodraethwyr a Chlercod Ysgolion o ddau i bedwar, er mwyn darparu mwy o hyfforddiant, canllawiau newydd a chymorth pwrpasol ar faterion diogelu;
  • cyflwyno trefniadau newydd ar gyfer derbyn, ymchwilio a phenderfynu ar bryderon am gam-drin plant;
  • cyflwyno mesurau i gryfhau ymwybyddiaeth a hyfforddiant diogelu ar gyfer y 6,000 a mwy o weithlu’r Cyngor, gyda’r bwriad o sicrhau bod pawb yn gwybod sut i adnabod ac adrodd pryderon am blentyn neu oedolyn bregus.

Gobaith y Cyngor yw y bydd y buddsoddiad mewn gweithdrefnau newydd yng Ngwynedd yn gallu helpu ysgolion a chynghorau eraill ar draws Cymru hefyd.

Dywedodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, Arweinydd Cyngor Gwynedd:

Does dim dwywaith bod pobl a chymunedau Gwynedd yn parhau i fyw gydag effaith ddofn yr hyn ddigwyddodd. Wrth nodi blwyddyn ers cyhoeddi Cyfiawnder Trwy Ein Dewrder, a rhannu’r cynnydd o ran gweithredu argymhellion yr adroddiad, dwi hefyd am ail-bwysleisio mai’r hyn sy’n ein gyrru i wella ydi dewrder y goroeswyr. Eu lleisiau nhw arweiniodd at gyfiawnder trwy’r llysoedd barn ac sydd rŵan wedi sbarduno newid.

“Y deyrnged orau oedd yn bosib ni ei dalu i ddewrder y bobl ifanc oedd cyflawni y newidiadau mor gyflym a phosib. Rydym wedi edrych yn onest ar ein methiannau, rhoi ein holl egni i ddysgu’r gwersi a gwneud popeth o fewn ein gallu i atal sefyllfa debyg rhag digwydd eto. Ond, mae’n bwysig hefyd fod y newid yn parhau i'r hirdymor a’n bod yn gwneud yn siŵr fod hyn yn cael effaith go iawn i ddiogelu ein plant.

“Mae diogelu plant yn gyfrifoldeb parhaus. Er y cynnydd dros y flwyddyn ddiwethaf, does dim pen draw i'r daith. Byddwn ni’n dal ati i herio ein hunain i gadw ar y trywydd hwn.”

Dywedodd Dafydd Gibbard, Prif Weithredwr Cyngor Gwynedd:

“Rydym wedi rhoi blaenoriaeth i’r gwaith pwysig yma uwchlaw popeth arall er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud llu o newidiadau i’n trefniadau diogelu ac rwy’n falch ein bod wedi gwneud cynnydd da. Fyddwn ni byth yn gorffwys ar ein rhwyfau wrth gwrs. Mae strwythurau diogelu cadarn yn ddibynnol ar ddiwylliant a meddylfryd yn ogystal a threfn, ac mae hynny’n gorfod bod yn waith parhaus mewn unrhyw sefydliad.

“Mae diogelu hefyd yn gyfrifoldeb ar bob un ohonom a rhaid i ni gyd fod yn barod i ddweud os ydym yn gweld rhywbeth sydd ddim yn iawn.

“Rydym wedi rhoi ymdrech fawr i sicrhau fod staff Cyngor Gwynedd ar draws holl adrannau, ac ym mhob lleoliad, yn cael yr hyfforddiant cywir fel eu bod yn hyderus wrth adnabod yr arwyddion, yn gwybod sut i godi llais ac yn barod i wrando ar berson bregus ar bob achlysur.”

Mae cynllun Cyngor Gwynedd sy’n ymateb i adroddiad Cyfiawnder Trwy Ein Dewrder yn cael ei graffu gan Fwrdd Rhaglen Cynllun Ymateb. Caiff y Bwrdd ei gadeirio gan yr Athro Sally Holland, awdurdod ym maes diogelu plant a chyn-Gomisiynydd Plant Cymru.

Mae’r Bwrdd yn cynnwys cynrychiolwyr sy’n arwain yn y maes diogelu megis Llywodraeth Cymru, Estyn, Swyddfa Comisiynydd Plant Cymru a Gofal Cymru.

Dywedodd yr Athro Holland:

“Wrth i ni nodi blwyddyn ers cyhoeddi’r adroddiad, mae’n bwysig adlewyrchu ar y camau gweladwy y mae Cyngor Gwynedd wedi’u cymryd, yn ogystal â’r gwaith sydd eto i’w wneud. Mae wedi bod yn galonogol gweld y Cyngor yn gweithio nid yn unig i sicrhau bod ei waith diogelu yn gadarn – a oedd yn ofyn sylfaenol – ond hefyd i osod y sylfeini ar gyfer newid diwylliannol. Mae hyn yn cynnwys llwybrau mwy eglur i sicrhau bod safbwyntiau plant yn cael eu clywed yn ysgolion a gwasanaethau eraill Gwynedd, yn ogystal â hyfforddiant mwy ystyrlon i staff.

“Er bod gweithdrefnau a pholisïau wedi newid, bydd yn cymryd mwy o amser i adennill hyder pobl Gwynedd. Fel rhan o’n rôl, mae’r Bwrdd Ymateb wedi cefnogi datblygu mesurau sy’n galluogi’r Cyngor i ddeall ac adrodd ar hyder plant ac oedolion yn y system ddiogelu, a’u profiadau o’r ffordd y mae’n gweithredu.

“Dewrder ac urddas y goroeswyr sy’n ysgogi’r Bwrdd, byddwn yn parhau i sicrhau ein bod yn craffu cynnydd yn feirniadol, tra hefyd yn cynnig cyngor a chefnogaeth ar sut i ddatblygu ymhellach.”