Dathliad Cerflun Darllen y Graig yn Llanberis

Logo Gwynedd
Uned y Wasg, Cyngor Gwynedd

Daeth aelodau o gymuned Llanberis ynghyd yn ddiweddar i ddathlu gwaith celf newydd sydd yn nodi cysylltiad y pentref â’r diwydiant llechi.

Mae’r cerflun yn deyrnged i chwarelwyr yr ardal, eu teuluoedd a’r gymuned gyfan a fu’n rhan o’r diwydiant. Cynhaliwyd y digwyddiad ar lan Llyn Padarn, lle mae’r gwaith celf wedi ei leoli.

Comisiynwyd yr artist Howard Bowcott gan Gyngor Gwynedd i greu’r cerflun fel rhan o gynllun Llewyrch o’r Llechi - rhaglen buddsoddi ddiwylliannol a ariennir gan Lywodraeth y DU a sy’n rhan o ddatblygiadau lleol yn sgil dynodiad Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru.

Bu’r artist yn gweithio gyda disgyblion Ysgol Dolbadarn, haneswyr lleol, aelodau Cyngor Cymuned Llanberis a Dyffryn Peris a’r gymuned yn ehangach i ddysgu mwy am fywyd domestig a hanes y diwydiant llechi yn lleol wrth ddatblygu’r dyluniad.

Mae’r cerflun ‘Darllen y Graig’, yn dathlu sgil y chwarelwyr o ddeall a “darllen” y graig, gyda geiriau wedi’u naddu sy’n adrodd hanes eu gwaith a’u cymuned. Trwy fandiau o destun sy’n adlewyrchu ffurf y chwareli, mae’r gwaith yn olrhain taith bachgen o blentyndod i waith yn y chwarel, gan amlygu cyfeillgarwch, caledi a heriau bywyd y diwydiant llechi.

Cerflun Darllen y Graig - Reading the Rock sculpture

Dywedodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, Arweinydd Cyngor Gwynedd:

Dwi’n hynod o falch o weld y gwaith celf a’r buddsoddiad arbennig yma sy’n dathlu treftadaeth a hanes ardal Llanberis yn ei le. Roedd yn hyfryd bod yn rhan o’r bwrlwm ar y diwrnod a chlywed y plant yn canu, ynghyd â’r penillion hyfryd yn cael eu hadrodd gan aelodau o’r gymuned.

“Mae’r prosiect hwn, a’r cynlluniau a gweithiau celf rydym wedi eu gweld mewn cymunedau chwarelyddol eraill, fel Porthmadog a Penygroes, drwy raglen Llewyrch o’r Llechi, yn helpu i adfywio ein cymunedau. Mae’n ffordd i adrodd ein stori ac yn cynnig cyfle gwych i bobl ymfalchïo yn ein tirwedd llechi arbennig.

“Hoffwn ddiolch yn fawr am gefnogaeth Cyngor Cymuned Llanberis a Dyffryn Peris helpodd i ddatblygu’r cysyniadau, ac sydd wedi perchnogi’r cerflun.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Gwilym Tudor Evans, Aelod Lleol Llanberis:

“Mae’r gymuned yma yn Llanberis wedi bod efo gweledigaeth ers nifer o flynyddoedd i gael cerflun yn y pentref fyddai’n cydnabod pwysigrwydd y diwydiant llechi ac yn talu teyrnged iddo. Dwi’n falch iawn bod y cyfle wedi dod drwy brosiect Llewyrch o’r Llechi i wireddu’r freuddwyd. Mae’r buddsoddiad yn newyddion da i Llanberis a dwi’n edrych ymlaen at weld mwy o brosiectau i adfywio’r pentref a fydd yn cadw ein hanes yn fyw.

“Mae cydweithio gwych wedi bod ar y prosiect o’r cychwyn a’r gymuned gyfan wedi cael cyfle i roi mewnbwn i’r dyluniad a chytuno ar y geiriau sydd wedi eu cynnwys yn y celf. Braf oedd bod yno ar y diwrnod i ddathlu gyda cyn chwarelwyr, y Cyngor Cymuned, plant Ysgol Dolbadarn, a swyddogion o’r Cyngor.”

Meddai’r artist Howard Bowcott:

“Mae hwn wedi bod yn gerflun arbennig iawn i ymchwilio iddo a'i ddylunio dros sawl blwyddyn, a hefyd i'w wneud. Mae dros bum mil o ddarnau o lechi to Dinorwig wedi'u pentyrru gyda'i gilydd i greu'r golofn sy'n troelli gan bwyll. Mae wedi'i hysbrydoli gan gŷn holltwr llechi. Ond i mi mae cyfoeth y golofn ym manylder y testun, wedi'i ysgythru ar fandiau o lechi coeth.

“Bu'n bosib i mi dynnu sylw at rôl menywod yn y cymunedau llechi sy'n aml yn cael ei hesgeuluso, i'w dathlu ochr yn ochr â sgil y chwarelwyr. Mae'n ddathliad o gymuned, crefft a diwylliant sy'n nodi’r Safle Treftadaeth y Byd.⁠”

Dywedodd Bethan Holding Cadeirydd Cyngor Cymuned Llanberis a Dyffryn Peris:

“Daeth cyfle unigryw i’r gymuned allu gwireddu gweledigaeth o greu cofeb i’r chwarelwyr. Roedd y prosiect yn gyfle nid yn unig i godi cerflun trawiadol sy’n cydnabod statws Safle Treftadaeth y Byd Llechi Cymru, ond hefyd i gofio am y chwarelwyr a chydnabod cyfraniad pob gwraig a phob teulu a safai y tu ôl i bob chwarelwr.”

Ychwanegodd yr Arglwydd Dafydd Wigley, Cadeirydd Bwrdd Safle Treftadaeth y Byd Llechi Cymru:

“Mae’r cerflun yn rhoddi llwyfan i bobl Llanberis a’r cylch, i ddathlu eu treftadaeth hynod mewn ffordd unigryw, ac mae’r cyfle hwn i gefnogi gweledigaeth y gymuned leol i greu cerflun sydd yn cydnabod hynodrwydd a phwysigrwydd y diwydiant llechi yn galonogol dros ben.

“Rydym yn ymfalchïo yn y prosiect yma fel rhan o’r ymdrech ehangach i ddefnyddio’r Statws Treftadaeth Byd er budd i’n cymunedau.”

Am fwy o wybodaeth am Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru ac am ysbrydoliaeth ac ystyr y cerflun ewch i wefan Llechi Cymru: https://www.llechi.cymru/cy/celf-llanberis

Dafydd Wigley, Cyng.Nia Jeffreys, Johnjo Jones, Howard Bowcott, Gwenlli Haf Evans o flaen cerflun llechi llanberis