Ymestyn cynnig gofal plant a ariennir gan Lywodraeth Cymru i bob plentyn dwy oed yng Ngwynedd

Logo Gwynedd
Uned y Wasg, Cyngor Gwynedd

Gall teuluoedd ar draws Gwynedd bellach wneud cais am ofal plant a ariennir i bob plentyn dwy oed, wrth i Lywodraeth Cymru gyflymu’r broses o gyflwyno’r cynnig gofal plant mwyaf hael yn unrhyw le yn y Deyrnas Unedig.

O 8 Hydref, bydd rhieni a gofalwyr pob plentyn dwy oed yng Ngwynedd yn gallu gwneud cais am 12.5 awr yr wythnos o ofal plant wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru. O dan y cynnig cyffredinol newydd, bydd yr oriau wedi’u hariannu ar gael i’w defnyddio o 2 Tachwedd 2026 ymlaen, gyda darparwyr sydd wedi cael eu cymeradwyo gan Cyngor Gwynedd.

Gwynedd yw’r awdurdod lleol diweddaraf i ehangu gofal plant a ariennir gan Lywodraeth Cymru i bob plentyn dwy oed yn eu hardal gan nodi carreg filltir arwyddocaol o gyflwyno’r ddarpariaeth fesul cam drwy awdurdodau lleol ledled Cymru. Bydd yr ehangu hefyd yn cefnogi darparwyr gofal plant ar draws Gwynedd gan helpu i reoli’r galw cynyddol a chryfhau cynaliadwyedd hirdymor y sector.

Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog Cymru, Sioned Williams:

Mae’r buddsoddiad hwn yn dangos ein bod yn cyflymu ein hymrwymiadau i deuluoedd Cymru. Cymru sydd â’r costau gofal plant uchaf yn y DU ac rydw i’n benderfynol o helpu teuluoedd ledled Cymru, gan gefnogi datblygiad plant ar yr un pryd. Byddwn yn parhau i weithio’n agos gydag awdurdodau lleol ledled Cymru i gyflwyno’r cynnig hwn ym mhobman.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Menna Trenholme, Dirprwy Arweinydd Cyngor Gwynedd ac Aelod Cabinet Plant a Chefnogi Teuluoedd:

Rwy’n falch iawn fod Gwynedd yn ymestyn gofal plant wedi’i ariannu i bob plentyn dwy oed o fis Tachwedd 2026. Mae hwn yn gam sylweddol i deuluoedd ar draws y sir ac mae’n cefnogi’r weledigaeth a nodir yng Nghynllun y Cyngor 2023-2028 o greu Sir lle gall pobl ffynnu.

“Drwy fuddsoddi yn ein trigolion ieuengaf, rydym yn helpu i sicrhau bod plant yn cael mynediad at brofiadau blynyddoedd cynnar o ansawdd uchel sy’n cefnogi eu datblygiad, eu lles a’u dysgu yn y dyfodol. Bydd y cynnig hefyd yn darparu cymorth i rieni a gofalwyr, gan helpu mwy o deuluoedd i oresgyn rhwystrau i waith neu hyfforddiant sy’n deillio o drefniadau gofal plant.

“Mae rhoi’r dechrau gorau posibl mewn bywyd i blant yn un o’r buddsoddiadau pwysicaf y gallwn eu gwneud ar gyfer dyfodol Gwynedd, ac mae’r cynnig hwn yn dangos ein hymrwymiad i gefnogi plant, teuluoedd a chymunedau i ffynnu.”

Am ragor o wybodaeth a manylion sut i wneud cais ewch i’r wefan: www.gwynedd.llyw.cymru/gofalplant2oed