Mae dros £7 miliwn wedi ei ymrwymo i weithredu prosiectau o fewn Cynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur y Cyngor dros y pedair blynedd nesaf, ac mae aelodau'r Cabinet hefyd wedi galw ar Lywodraeth y DU i weithredu ymhellach i ymateb i’r argyfwng hinsawdd a natur.
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae Gwynedd, fel siroedd eraill ar draws y wlad wedi wynebu heriau sy’n gysylltiedig â hinsawdd sy’n newid, o law trwm a pherygl llifogydd a thirlithriadau i wres eithriadol, sychder a thanau gwyllt.
Bydd y buddsoddiad yn galluogi’r Cyngor i barhau i ymateb i’r heriau, ac â nifer o brosiectau dadgarboneiddio a symud tuag at nod y Cyngor o fod yn garbon sero net ac yn ecolegol gadarnhaol i’r dyfodol fel amlygwyd yn y Cynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur.

Yn ogystal â gweithredu’n lleol, mae aelodau Cabinet y Cyngor wedi llythyru Prif Weinidog y Deyrnas Unedig yn galw ar y Lywodraeth y DU i ddarlledu ffilm ddogfen ‘The People’s Emergency Briefing’ ar y teledu.
Mae'r ffilm yn cyflwyno trosolwg clir a mesuredig o sut mae'r argyfwng hinsawdd a natur yn effeithio ar fywyd bob dydd, a beth mae'r dystiolaeth yn ei ddweud wrthym am y risgiau a’r ymatebion sydd eu hangen.
Mae Cyngor Gwynedd wedi cynnal dau ddangosiad o’r ffilm ar gyfer cynghorwyr a staff a wedi trefnu dau ddangosiad cyhoeddus yn Neuadd Dwyfor, Pwllheli a Tŷ Siamas, Dolgellau yn ystod mis Medi, 2026.
Dywedodd y Cynghorydd Craig ab Iago, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros yr Amgylchedd a Chadeirydd – Bwrdd Newid Hinsawdd a Natur Cyngor Gwynedd:
Nid bygythiad ymhell i’r dyfodol yw’r argyfwng hinsawdd a natur. Mae ei effeithiau i’w gweld yn ein cymunedau, ar ein tir ac ar ein harfordir heddiw. Mae amgylchedd a byd natur Gwynedd yr un mor unigryw ac arbennig â’i phobl a’i hiaith, ac mae gennym gyfrifoldeb i’w gwarchod, nid yn unig ar ein cyfer ni heddiw, ond ar gyfer y cenedlaethau a ddaw ar ein holau.
“Credaf ei bod hi’n hen bryd siarad yn gwbl onest a dyna pam rydym wedi galw ar Brif Weinidog y DU i gynnal sesiwn friffio frys ar y teledu yn ystod oriau brig a chael chyfraniadau gan arbenigwyr annibynnol y gellir ymddiried ynddynt i amlygu maint y risgiau a pha mor uniongyrchol ydynt, yn ogystal â’r manteision a ddaw yn sgil y Llywodraeth a dinasyddion yn cymryd camau gweithredu sy’n gymesur â’r risgiau hynny.
Ychwanegodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, Arweinydd Cyngor Gwynedd:
Mae amgylchedd a natur Gwynedd wrth galon yr hyn sy’n gwneud y sir hon mor arbennig. Wrth i effeithiau’r argyfwng hinsawdd ddod yn fwy amlwg yn ein cymunedau ac ym mywydau ein trigolion, mae’n bwysicach nag erioed ein bod yn gweithredu ac yn chwarae ein rhan.
“Drwy gydweithio, gwneud penderfyniadau cyfrifol a buddsoddi ar gyfer y tymor hir, gallwn ddiogelu’r hyn sy’n bwysig i ni heddiw a sicrhau bod cenedlaethau’r dyfodol yn gallu mwynhau’r un amgylchedd arbennig.”