Cyfle i fusnesau Gwynedd ddweud eu dweud

Logo Gwynedd
Uned y Wasg, Cyngor Gwynedd

Mae'r Cyngor annog busnesau ledled y sir i gymryd rhan yn ei Arolwg Busnes 2026 a helpu i lywio mentrau economaidd, prosiectau a gweithgareddau er budd busnesau yn y dyfodol.

Mae'r arolwg yn rhoi cyfle i berchnogion busnes a rheolwyr rannu eu profiadau, eu heriau a'u blaenoriaethau. Bydd yr adborth a dderbynnir yn rhoi mewnwelediad gwerthfawr i'r amgylchedd busnes presennol ac yn helpu i sicrhau bod safbwyntiau busnesau Gwynedd yn cael eu hadlewyrchu mewn cynlluniau a phenderfyniadau yn y dyfodol.

Mae'r holiadur yn cynnwys cwestiynau am berfformiad busnes, recriwtio a sgiliau, eiddo busnes, buddsoddi, y Gymraeg a chymorth busnes.

Dywedodd y Cynghorydd Medwyn Hughes, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros yr Economi a Chymuned:

Rydyn ni eisiau clywed yn uniongyrchol gan fusnesau ledled Gwynedd am yr hyn sy'n digwydd yn eu busnesau. P'un a yw eich busnes yn tyfu, yn wynebu heriau, yn recriwtio staff neu'n cynllunio ar gyfer y dyfodol, mae eich adborth yn ein helpu i ddeall yn well y materion sy'n bwysicaf i'n cymuned fusnes.

"Mae'r wybodaeth a gesglir drwy'r arolwg yn chwarae rhan bwysig wrth lunio ein blaenoriaethau a'r gweithgareddau rydym yn eu cyflwyno drwy gydol y flwyddyn. Mae adborth blaenorol wedi helpu i lywio datblygiad prosiectau, digwyddiadau a mentrau busnes, ac rydym yn awyddus i sicrhau bod gweithgarwch yn y dyfodol yn parhau i adlewyrchu anghenion busnesau lleol.

"Rydyn ni'n gwybod bod perchnogion busnes yn brysur, ond dim ond ychydig o amser y mae'r arolwg yn ei gymryd i'w gwblhau ac mae pob ymateb yn werthfawr. Byddwn yn annog busnesau o bob maint a sector i gymryd rhan a sicrhau bod eu llais yn cael ei glywed."

Mae'r arolwg ar agor tan 20 Tachwedd 2026. I’w gwblhau, ewch i: https://www.gwynedd.llyw.cymru/dweud-eich-dweud/ymgynghoriadau-ac-arolygon-2026/arolwg-busnes-2026

Os hoffech gael copi papur o'r holiadur, neu am ragor o wybodaeth, anfonwch e-bost at busnes@gwynedd.llyw.cymru