Mae Cynllun Datblygu Lleol yn ddogfen statudol allweddol sy'n llywio sut a lle dylai datblygiadau ddigwydd. Ei bwrpas yw sicrhau'r cydbwysedd cywir rhwng darparu tai, swyddi ac isadeiledd newydd, a diogelu'r amgylchedd, cymunedau a hunaniaeth ieithyddol yr ardal.
Wrth gyflwyno adroddiad monitro blynyddol ar y Cynllun Datblygu Lleol i Gabinet Cyngor Gwynedd, rhoddwyd ystryriaeth i berfformiad y Cynllun dros y naw mlynedd diwethaf, gan ystyried data a thystiolaeth i fesur cynnydd yn erbyn amcanion y Cynllun a blaenoriaethau’r Cyngor.
Dywedodd y Cynghorydd Craig ab Iago, Aelod Cabinet Amgylchedd Cyngor Gwynedd:
Mae’r Cynllun yma wedi gosod fframwaith clir i ni fel Cyngor i sicrhau fod datblygiadau yn digwydd yn y llefydd mwyaf addas er budd cymunedau Gwynedd.
Mewn cyfnod pan mae ein cymunedau wedi wynebu heriau ac argyfwng tai, mae'r Cynllun Datblygu Lleol wedi helpu i sicrhau cannoedd o gartrefi fforddiadwy yng nghymunedau Gwynedd.
Trwy wneud defnydd effeithiol o’r Cynllun Datblygu Lleol, rydym wedi gallu ymateb i anghenion lleol, gan sicrhau bod datblygiadau newydd yn cyfrannu at gryfhau cymunedau a chefnogi pobl leol.”
Ers 2017, mae 639 o gartrefi fforddiadwy wedi derbyn caniatâd cynllunio ac wedi eu cwblhau yng Ngwynedd. Mae hyn yn cynrychioli 55.1% o'r holl gartrefi sydd wedi'u caniatáu a'u cwblhau yn ystod y cyfnod.
Yn ogystal, roedd y Cynllun yn arloesol ar lefel Cymru gan mai hwn oedd cyntaf yng Nghymru i gyflwyno Polisi Tai Marchnad Leol. Mae'r polisi hwn wedi helpu i sicrhau bod tai newydd mewn ardaloedd lle ceir pwysau arbennig ar y farchnad dai yn diwallu anghenion pobl sydd â chysylltiad lleol â'r ardal.
Ychwanegodd y Cynghorydd Craig ab Iago:
“Ond wrth gwrs, mae’r Cynllun Datblygu yn ymwneud â mwy na thai yn unig ac mae wedi hwyluso buddsoddiad mewn addysg ac economi'r sir, diogelu cyfleusterau cymunedol ac ystyried effaith datblygiadau ar y Gymraeg.
Yn wir, ers mabwysiadu’r Cynllun yn 2017, mae pedair ysgol newydd sbon wedi eu cymeradwyo, gan sicrhau fod plant a phobl ifanc Gwynedd yn cael y budd o ddysgu mewn amgylchedd dysgu modern yr 21ain ganrif.
Mae'r dystiolaeth a gyflwynwyd i'r Cabinet yn yr adroddiad monitro yn cadarnhau bod y Cynllun wedi cyflawni ar nifer o'r blaenoriaethau sydd bwysicaf i'n trigolion ers ei fabwysiadu yn 2017, ac wedi gwneud cyfraniad sylweddol at gynnal cymunedau cynaliadwy ledled y sir."
Ers mabwysiadu'r Cynllun Datblygu Lleol yn 2017, mae caniatâd cynllunio wedi'i roi ar gyfer pedair ysgol newydd sef Ysgol y Garnedd ym Mangor, Ysgol Treferthyr yng Nghricieth, Ysgol Ein Harglwyddes ym Mangor ac Ysgol Bontnewydd.
Mae'r Cynllun hefyd wedi hwyluso datblygiadau cyflogaeth ar stadau a pharciau diwydiannol ynghyd â safleoedd priodol eraill, gan gefnogi buddsoddiad economaidd a chyfleoedd gwaith. Yn ogystal, mae wedi galluogi datblygiadau isadeiledd ynni strategol sy'n helpu i gryfhau'r rhwydwaith trydan a hwyluso cysylltu ffynonellau ynni adnewyddadwy, gan gynnwys ynni gwynt alltraeth.
Mae rhoi ystyriaeth i'r Gymraeg wedi bod yn ganolog i weithrediad y Cynllun ers ei fabwysiadu. Mae polisïau'r Cynllun a'r Canllawiau Cynllunio Atodol cysylltiedig wedi sicrhau bod effaith datblygiadau ar yr iaith Gymraeg yn cael ei hasesu fel rhan o'r broses gwneud penderfyniadau cynllunio.
Yn ogystal â hyn, mae datblygiadau tai newydd wedi cyfrannu at sicrhau 14,003 metr sgwâr o lecynnau agored ychwanegol, megis parciau chwarae, mewn ardaloedd lle nodwyd diffyg darpariaeth.
Mae gwaith yn digwydd ar hyn o bryd i baratoi Cynllun Datblygu Lleol newydd ar gyfer Ardal Awdurdod Cynllunio Gwynedd.
