Mae cynllun Dechrau'n Deg wedi ei ymestyn i ardal Pwllheli, gan sicrhau bod mwy o blant ifanc a'u teuluoedd yn gallu cael mynediad at gymorth hanfodol yn ystod blynyddoedd cynnar bywyd.
Mae Dechrau'n Deg yn darparu cymorth wedi'i dargedu ar gyfer teuluoedd â phlant ifanc, gan ganolbwyntio ar wella canlyniadau i blant o'u genedigaeth hyd at ddechrau ysgol.
Mae'r estyniad yn rhan o ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru i leihau anghydraddoldebau a rhoi'r dechrau gorau posibl mewn bywyd i blant. Bydd teuluoedd cymwys yn gallu manteisio ar ystod o wasanaethau, gan gynnwys cymorth iechyd, cymorth rhiantu, cefnogaeth iaith a lleferydd, a gofal plant o safon uchel.
Bydd yr ehangu yn golygu y bydd teuluoedd Pwllheli yn gymwys i gael mynediad at wasanaethau Dechrau'n Deg am y tro cyntaf, gan ehangu'r gefnogaeth sydd eisoes ar gael i deuluoedd mewn ardaloedd eraill o Wynedd.
Bydd adeilad newydd wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru yn dod i safle Ysgol Cymerau yn ystod 2027 gan gynnig mwy o lefydd gofal plant ar gyfer y cynllun. Bydd plant 2 oed yn gallu manteisio ar ofal plant a ariennir am 12 awr a hanner yr wythnos i gychwyn.
Dywedodd y Cynghorydd Menna Trenholme, Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet Plant a Chefnogi Teuluoedd:
Rydym yn croesawu'r cyfle i ymestyn Dechrau'n Deg i fwy o deuluoedd yn ein cymunedau. Mae'r blynyddoedd cynnar yn hanfodol i ddatblygiad plentyn, ac mae'r gefnogaeth a ddarperir drwy'r rhaglen yn helpu teuluoedd i adeiladu sylfeini cadarn ar gyfer iechyd, dysgu a llesiant yn y dyfodol. Mae'r estyniad hwn yn fuddsoddiad pwysig yn ein plant a'n cymunedau."
Bydd teuluoedd sy'n byw ym Mhwllheli yn cael gwybodaeth bellach am eu cymhwysedd a'r gwasanaethau sydd ar gael dros yr wythnosau nesaf.
Anogir rhieni a gofalwyr i ymweld â’r wefan neu gysylltu â'r tîm Dechrau'n Deg am ragor o wybodaeth dechraudeg@gwynedd.llyw.cymru 01286 678824
Gweler ddau fap yn amlinellu’r lleoliadau cymwys ym Mhwllheli ar wefan Llywodraeth Cymru:
https://www.gov.wales/docs/statistics/lsoamaps/gwynedd/W01000108.pdf - Gogledd Pwllheli
https://www.gov.wales/docs/statistics/lsoamaps/gwynedd/W01000109.pdf - De Pwllheli