Bydd gwasanaeth Llyfrgell Caernarfon yn symud dros dro i Oriel Pendeitsh, Caernarfon, yn ystod mis Tachwedd er mwyn caniatáu i waith ailddatblygu sylweddol gwerth dros £1 miliwn ddechrau ar adeilad y llyfrgell.
Mae'r symud yn nodi cyfnod cyffrous i’r llyfrgell wrth i waith y prosiect gychwyn a fydd yn uwchraddio’r adeilad presennol i fod yn gyfleuster modern, hygyrch a chynaliadwy ar gyfer y gymuned i’r dyfodol.
Bydd y llyfrgell yn cau am wythnos rhwng 9 a 14 Tachwedd er mwyn symud y ddarpariaeth. Yn ystod y cyfnod hwn bydd blwch dychwelyd llyfrau ar gael y tu allan i'r adeilad fel y gall defnyddwyr barhau i ddychwelyd eitemau.
O 16 Tachwedd, bydd gwasanaethau'r llyfrgell yn gweithredu o Oriel Pendeitsh, sydd wedi'i lleoli yng nghanol y dref gyferbyn â'r castell. Bydd y gwasanaeth yn parhau yno tra bydd y gwaith ailddatblygu yn mynd rhagddo. Disgwylir i'r prosiect gael ei gwblhau erbyn dechrau 2028.
Er y bydd nifer o wasanaethau arferol y llyfrgell yn parhau ar gael, gan gynnwys benthyg ac archebu llyfrau a defnyddio cyfrifiaduron cyhoeddus, bydd y ddarpariaeth yn fwy cyfyngedig yn ystod y cyfnod hwn oherwydd y gofod llai sydd ar gael yn y lleoliad dros dro.

Dywedodd y Cynghorydd Medwyn Hughes, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Economi a Chymuned:
Mae hwn yn fuddsoddiad sylweddol yn nyfodol Llyfrgell Caernarfon a fydd yn darparu cyfleuster modern a hygyrch i'r gymuned am flynyddoedd i ddod.
Hoffwn ddiolch i ddefnyddwyr am eu hamynedd yn ystod y cyfnod hwn. Edrychwn ymlaen at weld y manteision y bydd y datblygiad sylweddol yn eu cynnig i'r gymuned."
Bydd Gwasanaeth Llyfrgelloedd Gwynedd yn cynnal sesiwn wybodaeth yn Oriel Pendeitsh i rannu rhagor o wybodaeth am y datblygiadau a rhoi cyfle i drigolion ofyn cwestiynau am y cynlluniau yn yr wythnosau nesaf.
Bydd gwybodaeth am oriau agor, y gwasanaethau sydd ar gael a manylion y sesiwn wybodaeth yn cael eu rhannu ar wefan Cyngor Gwynedd www.gwynedd.llyw.cymru/llyfrgelloedd ac ar sianeli cyfryngau cymdeithasol Llyfrgelloedd Gwynedd.