Mae tipio anghyfreithlon yn drosedd ddifrifol a all arwain at gamau gorfodi a chosbau ariannol sylweddol.
Mae erlyniad llwyddiannus diweddar wedi bod gan y Cyngor yn erbyn unigolyn a fethodd â chydymffurfio â'i Ddyletswydd Gofal mewn perthynas ag achos o dipio anghyfreithlon yn y gilfan ger Llyn Celyn, Y Bala.
Yn dilyn cais llwyddiannus am warant ym mis Gorffennaf 2026, cynorthwyodd yr heddlu i ddod â'r unigolyn gerbron y llys. Yn ystod yr achos, canfu'r llys fod yr unigolyn wedi methu â chydymffurfio â'i Ddyletswydd Gofal mewn perthynas â gwastraff, a gorchmynnwyd iddo dalu cyfanswm o £700.
Roedd y gosb yn cynnwys:
• Dirwy o £300 yn gysylltiedig â'r Hysbysiad Cosb Benodedig wreiddiol.
• Costau llys o £400.

Wrth groesawu'r canlyniad, dywedodd y Cynghorydd June Jones, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd Priffyrdd, Peirianneg a YGC sy’n cynnwys Gwasanaethau Stryd:
Mae tipio anghyfreithlon, gwaredu gwastraff yn anghyfrifol a throseddau amgylcheddol eraill yn cael effaith negyddol ar ein cymunedau, ein cefn gwlad a'n hamgylchedd. Nid yw'r math hwn o ymddygiad yn dderbyniol, a byddwn yn defnyddio'r holl bwerau sydd ar gael gan y Cyngor i ddal y troseddwyr gerbron, boed hynny drwy roi Hysbysiadau Cosb Benodedig neu drwy fynd â materion i’r llys pan fo angen.
“Mae canlyniad yr achos hwn yn anfon neges glir y byddwn yn gweithredu yn erbyn unrhyw un sy'n methu â chydymffurfio â'r gyfraith.
“Rwyf hefyd yn annog trigolion i gymryd gofal wrth drefnu i rywun glirio gwastraff neu wagio eiddo ar eu rhan. Mae gennych gyfrifoldeb i sicrhau bod y person neu'r cwmni rydych yn eu defnyddio wedi'u cofrestru'n briodol ac wedi'u trwyddedu i gludo gwastraff. Mae'r mwyafrif helaeth o gwmnïau'n gweithredu'n gyfreithlon ac yn gyfrifol, ond mae nifer fach o unigolion diegwyddor yn dal i ddewis torri'r gyfraith er mwyn osgoi costau. Fel y mae'r achos hwn yn dangos, gall hynny arwain at ganlyniadau difrifol ac ariannol i bawb sydd ynghlwm wrth y drosedd.
“Trwy weithio gyda'n gilydd gallwn helpu i ddiogelu ein hamgylchedd, cadw ein cymunedau'n lân, a sicrhau nad yw'r rhai sy'n torri'r gyfraith yn elwa ar draul pawb arall."
Gall unrhyw un roi gwybod i’r Cyngor am droseddau amgylcheddol drwy’r wefan neu drwy ap apGwynedd.
I sicrhau eich bod yn cael gwared o wastraff yn gyfrifol a chyfreithlon, dylai pobl Gwynedd ddilyn y camau hyn:
• Defnyddiwch wasanaethau gwastraff ac ailgylchu’r Cyngor yn rheolaidd. Mae manylion eich diwrnod casglu a beth sydd i fynd ym mha fin ar gael ar wefan y Cyngor. www.gwynedd.llyw.cymru/ailgylchu
• Os ydych chi wedi bod yn clirio ac eisiau cael gwared ar nifer o eitemau, ewch â'ch gwastraff ychwanegol i'r ganolfan ailgylchu leol. Cofiwch archebu slot a didoli eich gwastraff o flaen llaw.
• Os ydych angen cael gwared o eitemau mawr, er enghraifft soffa neu rewgell, mae modd trefnu casgliad gwastraff swmpus gan y Cyngor.
• Os ydych angen trefnu gwasanaeth clirio tŷ masnachol / preifat, mae dyletswydd arnoch i sicrhau eu bod wedi eu cofrestru a gyda thrwydded i wneud y gwaith. Mae rhestr o gwmnïau sydd wedi eu cofrestru i gludo gwastraff ar gael ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru. Cyfoeth Naturiol Cymru / A oes gan safle ganiatâd, trwydded neu esemptiad (Cofrestr Gyhoeddus)