Cyngor Gwynedd yn parhau i gryfhau trefniadau diogelu

Dyddiad: 30/01/2026

“Y deyrnged fwyaf y gallaf ei dalu i ddewrder y dioddefwyr a goroeswyr ydi’r sicrhad a’r addewid o newid a gweithredu”

Cyngor Gwynedd yn parhau i gryfhau trefniadau diogelu

Mae Cyngor Gwynedd yn cymryd cam arall ymlaen ar y daith o sicrhau fod gwersi’n cael eu dysgu a bod y Cyngor yn parhau i gryfhau trefniadau diogelu plant y sir.

Cynhelir cyfarfod arbennig o’r Cyngor ddydd Iau, 5 Chwefror ble bydd cyfle i holl aelodau’r Cyngor roi sylwadau ar Gynllun Ymateb i droseddau’r cyn-brifathro a’r pedoffeil Neil Foden. Mae hyn yn ychwanegol i dri chyfarfod o bwyllgorau eraill y Cyngor sydd eisoes wedi eu cynnal dros yr wythnosau diweddar.

Mae’r Cynllun Ymateb gwreiddiol – a fabwysiadwyd gan Gabinet Cyngor Gwynedd yn Ionawr 2025 – wedi bod yn gynllun byw sydd wedi esblygu dros amser, ac eisoes wedi arwain at newid i drefniadau o fewn y sir. Mae hyn diolch i fewnbwn ac arweiniad y Bwrdd Ymateb, dan gadeiryddiaeth annibynnol yr Athro Sally Holland ac sy’n cynnwys sylwebyddion o sawl corff cenedlaethol.

Ers llunio’r cynllun gwreiddiol, mae Cyngor Gwynedd wedi cydnabod y byddai angen ei adolygu wedi cyhoeddi’r adroddiad Adolygiad Ymarfer Plant. Felly, yn dilyn cyhoeddi  adroddiad ‘Cyfiawnder Trwy Ein Dewrder’ ar 4 Tachwedd 2025, ail-luniwyd y cynllun i weithredu ei holl ganfyddiadau ac argymhellion. Dyma’r newid mwyaf i’r Cynllun ers ei fabwysiadu’n wreiddiol.

Dywedodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, Arweinydd Cyngor Gwynedd:

“Wrth i ni drafod yn Siambr y Cyngor, dwi’n gwybod bydd y dioddefwyr ar flaen fy meddwl i a phob cynghorydd arall. Fel Arweinydd, dwi wedi ymddiheuro yn ddiffuant i bawb gafodd eu heffeithio gan y troseddau erchyll hyn. Ni chafodd lleisiau’r plant eu clywed a rwyf yw dweud yn glir fod eu profiadau a’u lleisiau yn bwysig i mi.

“Mae cynnwys yr adroddiad Cyfiawnder Trwy Ein Dewrder yn ddychrynllyd ac mae darllen am yr achos difrifol hwn wedi ysgwyd pobl Gwynedd a’r Cyngor.

“Rydym ar siwrnai – o fethiant tuag at ein uchelgais o fod yn rhagori yn maes diogelu ein plant.

“Geiriau gwag ydi ymddiheuro os nad ydym yn gweithredu a gwneud yn siŵr fod pethau yn newid. Y deyrnged fwyaf y gallaf ei dalu i ddewrder y dioddefwyr a goroeswyr ydi’r sicrhad a’r addewid o newid a gweithredu. Ni fydd methiannau o’r math amlygwyd yn yr adolygiad yn digwydd eto.

“Diogelu a gwarchod plant rhag niwed ydi’r cyfrifoldeb pwysicaf sydd gan unrhyw Gyngor neu Gynghorydd.

“Mae’r adroddiad a’r Cynllun ar ei newydd wedd wedi bod gerbron sawl pwyllgor o’r Cyngor dros yr wythnosau diwethaf a dwi’n hynod ddiolchgar i’r aelodau sydd wedi cyfrannu drwy eu craffu manwl a’u sylwadau adeiladol. Mae her iach yn hanfodol yn enwedig ar fater mor ddifrifol a hyn.

“Dim ond trwy weithio gyda’n gilydd – gyda phawb yn rhwyfo i’r un cyfeiriad – y gallwn wneud cynnydd gwirioneddol ac amserol mewn maes mor hanfodol o bwysig. Ni all unrhyw adran, plaid na unigolyn gyflawni newid ar eu pennau eu hunain, mae’n rhaid i ni weithio gyda’n gilydd ar draws ffiniau er mwyn sicrhau dyfodol mwy diogel i blant a phobl ifanc y sir.”

Bydd y Cynllun Ymateb ar ei newydd wedd yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet ystyried ei fabwysiadu yn ffurfiol 10 Mawrth 2026. 

Nodiadau

Mae’r Cynllun Ymateb ar ei newydd wedd wedi ei drafod eisoes yn y pwyllgorau a fforymau canlynol:

Mae gwybodaeth bellach – gan gynnwys dolen i Adroddiad Cyfiawnder Trwy Ein Dewrder – ar gael ar wefan y Cyngor: Canlyniad Adolygiad Ymarfer Plant, Tachwedd 2025