Cau pont droed gyswllt Lon Las Ogwen a Maesgeirchen, Bangor

Dyddiad: 26/01/2026

Mae Cyngor Gwynedd wedi gorfod cau bont droed poblogaidd ym Mangor yn dilyn achos o losgi bwriadol.

Cafodd rhan sylweddol o bont droed rhwng Lôn Las Ogwen a Maesgeirchen, Bangor ei llosgi yn gynnar fore Mercher, 21 Ionawr 2026, gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cael eu galw. Mae’r Cyngor wedi cau y llwybr dros dro oherwydd pryder am ddiogelwch y strwythur.

Meddai’r Cynghorydd Craig ab Iago, Aelod Cabinet Amgylchedd Cyngor Gwynedd:

“Mae’r bont droed yma ym Mangor yn hynod boblogaidd gyda thrigolion lleol ac yn cynnig cyfle i fwynhau amgylchedd a byd natur ar gyrion y ddinas.

“Mae’n bryderus iawn felly fod y strwythur wedi gorfod ei gau ar ôl y tân yma, ac mae’n loes calon gweld y difrod sydd wedi ei achosi nid yn unig i strwythur y bont ond hefyd i goed aeddfed a’r llygredd i’r amgylchedd leol yn gyffredinol sgil y tân.

“Yn ogystal â’r anhwylustod fod rhaid cau y bont, mi fydd yna gostau sylweddol i’r Cyngor petaem yn gallu mynd ati i atgyweirio’r strwythur – mewn cyfnod lle mae cyllid eisoes yn brin, mae hyn yn gost di-angen.

“Mae’n siomedig bod ymddygiad lleiafrif yn difetha mwynhad pobl o’r bont droed hon sydd yn gyswllt pwysig i bobl leol. Rydym yn erfyn ar y rhai sy’n gyfrifol i barchu eiddo cyhoeddus ac i feddwl am effaith eu hymddygiad ar y gymuned leol, ac i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y mater i gysylltu gyda Heddlu Gogledd Cymru.”

Mae’r digwyddiad wedi ei adrodd i Heddlu Gogledd Cymru Heddlu. Os oes gan unrhyw un wybodaeth am y digwyddiadau yma, dylid cysylltu â Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu www.northwales.police.uk neu yn ddi-enw trwy Crimestoppers yn dyfynnu gan nodi rhif cyfeirnod 26000055252.