Pennod newydd i Ysgol Friars
Dyddiad: 06/02/2026
Mae Pennaeth parhaol wedi ei phenodi i Ysgol Friars ym Mangor.
Ymunodd Margaret Davies â thîm Ysgol Friars ar secondiad fel pennaeth dros dro yn dilyn y Pasg 2025 ac mewn cyfarfod o Lywodraethwyr yr Ysgol yn gynharach yr wythnos hon cafwyd cadarnhad ei bod wedi ei phenodi i’r swydd yn barhaol.
Dros y naw mis diwethaf, mae Margaret Davies wedi cyflwyno nifer o newidiadau gan ddod a sefydlogrwydd a chyfeiriad newydd cadarnhaol i'r ysgol.
Dywedodd cadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Friars, y Cynghorydd Elin Walker Jones: “Rydym yn llongyfarch Mrs Davies ar ei phenodiad, ac yn edrych ymlaen yn fawr i barhau i gydweithio efo hi i adeiladu ar y seiliau cadarn sydd eisoes yn eu lle ers ei dyfodiad i'r ysgol, a hynny er lles disgyblion, staff a holl gymuned yr ysgol.”
Dywedodd Mrs Margaret Davies: “Rwy’n falch iawn o gael fy mhenodi’n Bennaeth parhaol Ysgol Friars ac rwy'n teimlo’n freintiedig i arwain yr ysgol. Edrychaf ymlaen at barhau i weithio mewn partneriaeth â’r disgyblion, theuluoedd, staff, y Corff Llywodraethol a chymuned yr ysgol gyfan.
“Gyda'n gilydd, byddwn yn meithrin diwylliant o gyflawniad uchel, cynhwysiant a pharch, lle mae pob disgybl yn cael ei ysbrydoli i lwyddo.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Dewi Jones, Aelod Cabinet Addysg ar Gyngor Gwynedd: “Rydw i’n croesawu’r newyddion yma’n fawr, mae wedi bod yn bleser gweithio gyda Margaret dros y misoedd diwethaf ac edrychaf ymlaen i barhau â’r berthynas bositif.
“Mae hon yn ddechrau pennod newydd i’r ysgol ac dwi’n siŵr bydd pawb yn ymuno â mi i ddymuno pob llwyddiant i Margaret wrth iddi barhau i arwain yr ysgol gyda ffocws clir ar les, diogelwch a datblygiad pawb yng nghymuned yr ysgol.”