Lansio ap arloesol fydd o fudd i Oedolion ag Anabledd Dysgu yng Ngwynedd
Dyddiad: 09/02/2026
Mae Cyngor Gwynedd wedi lansio ap arloesol newydd sy’n cynnig ffordd symlach a fwy hygyrch i oedolion ag anableddau dysgu, eu teuluoedd, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol gael mynediad at wybodaeth a chefnogaeth hanfodol.
Diolch i gyllid gan Gogledd Cymru Gyda'n Gilydd, bydd ap ConnectMi yn dod a gwybodaeth a chefnogaeth gan wasanaeth Llwybrau Llesiant (yn ogystal a gwasanaethau allanol) at ei gilydd mewn un lle i wneud bywyd bob dydd yn symlach i ddefnyddwyr gwasanaeth.
Pwrpas prosiect Llwybrau Llesiant gan Wasanaeth Anabledd Dysgu Cyngor Gwynedd yw i ddatblygu potensial oedolion gydag anableddau. Bydd yr ap yn cefnogi hyn gan wneud gwybodaeth yn glir, cyson ac yn hawdd ei chyrraedd ac felly yn helpu i hyrwyddo annibyniaeth y defnyddiwr.
Mae rhai o nodweddion yr ap yn cynnwys:
•Calendr byw o ddigwyddiadau ar draws Gwynedd i oedolion ag anableddau dysgu.
•Hysbysiadau a negeseuon atgoffa uniongyrchol i ffôn y defnyddiwr.
•Dolenni cyswllt uniongyrchol â thîm Llwybrau Llesiant .Gall defnyddwyr neu deuluoedd cysylltu i ofyn cwestiynau, gofyn am gymorth neu gadarnhau manylion heb orfod chwilio am rifau neu gyfeiriadau.
•System adborth syml ac ar unwaith, gan alluogi defnyddwyr i rannu eu profiadau ar ôl mynychu gweithgareddau neu ddigwyddiadau.
Dywedodd un o ddefnyddwyr y gwasanaeth:
“Dw i’n hoffi’r ap, dw i’n edrych arna fo bob nos Sul i weld be sydd ar wythnos yma, mae o’n hawdd i ddefnyddio ac yn helpu fi”
Ychwanegodd y Cynghorydd Dilwyn Morgan, Aelod Cabinet dros Oedolion, Iechyd a Llesiant, Cyngor Gwynedd:
“Rwyf yn falch iawn o weld lansiad ap fydd yn adnodd pwysig ar gyfer Oedolion ag Anabledd dysgu eu teuluoedd a gweithwyr proffesiynol.
“Ar hyn o bryd mae gwybodaeth am amserlenni, newidiadau a chyfleoedd yn aml yn cael ei rhannu mewn gwahanol leoedd. Gall hyn arwain at gamddealltwriaeth, straen, a theimlad o golli allan.
“Mae’r ap yn dod â’r cyfan at ei gilydd mewn un lle syml, gan sicrhau bod pawb - defnyddwyr, teuluoedd a staff - yn cael yr un wybodaeth ar yr un pryd.
“Rwyf yn annog defnyddwyr gwasanaeth, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol i lawrlwytho’r ap gan fanteisio ar yr adnodd newydd yma.”
Gellir lawrlwytho ap ConnectMi yn rhad ac am ddim ar unrhyw ddyfais glyfar gan ddefnyddio’r côd 82557.
Nodiadau
Datblygwyd yr ap gyda chymorth arbenigol cwmni Heretothere