Cyngor Gwynedd yn cefnogi achos dros Ganolfan Arloesi, Busnes a Sgiliau yn Nhrawsfynydd
Dyddiad: 11/02/2026
Mae Cabinet Cyngor Gwynedd wedi cefnogi’r camau nesaf tuag at ddatblygu Canolfan Arloesi, Busnes a Sgiliau arfaethedig ar safle'r hen orsaf bŵer niwclear yn Nhrawsfynydd.
Rhagwelir bydd y Ganolfan yn aml-ddefnydd, wedi'i dylunio i ddarparu cyflogaeth hirdymor, gwerth uchel sy'n gysylltiedig â chyfleoedd mewn sectorau digomisiynu niwclear, ynni carbon isel, deallusrwydd artiffisial (AI) a thechnoleg ddatblygol.
Nod y prosiect, gwerth oddeutu £20 miliwn, yw cryfhau'r gweithlu lleol, cefnogi cadwyni cyflenwi rhanbarthol, a sbarduno adfywiad economaidd-gymdeithasol ehangach ym Meirionnydd. Bydd yn darparu cyfleusterau a datblygu sgiliau sy'n cyd-fynd â blaenoriaethau Llywodraethau Cymru a'r DU megis pontio sero-net, arloesi ac adfywio rhanbarthol.
Wedi'i noddi gan Gyngor Gwynedd, bydd y Ganolfan yn darparu gofod swyddfa, labordy, hyfforddiant a chydweithio hyblyg i gefnogi ymchwil, datblygu sgiliau, twf busnes ac arloesedd. Dyma'r cam cyntaf mewn uwchgynllun ehangach ar gyfer safle Trawsfynydd, lleoliad strategol ym Mharth Menter Eryri a Pharth Twf AI Gogledd Cymru.
Os yw'n llwyddiannus, bydd y prosiect yn cyflawni:
- 90 o swyddi llawn amser ychwanegol;
- Buddsoddiad £21.8 miliwn i economi gogledd Cymru;
- 3,000+ metr sgwâr o ofod llawr masnachol ac ymchwil newydd; a
- Cefnogaeth i 100 o fentrau o leiaf, gan gynnwys busnesau bach a chanolig, busnesau newydd a chwmnïau'r gadwyn gyflenwi.
Meddai’r Cynghorydd Nia Jeffreys, Arweinydd Cyngor Gwynedd:
“Mae hyn yn newyddion cadarnhaol a chyffrous i bobl yr ardal gyda photensial am gyfleon gwaith hirdymor o ansawdd uchel.
“Rydym yn croesawu’r cynlluniau yma a fydd yn helpu i fynd i’r afael â heriau cymdeithasol ac economaidd ym Meirionnydd, ac yn manteisio i’r eithaf ar werth economaidd hirdymor safle Trawsfynydd.
“Mae’n gyfle i ddatblygu sgiliau pobl i’r dyfodol ar safle o arwyddocâd cenedlaethol o fewn Gwynedd a gogledd Cymru.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Medwyn Hughes, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Economi a Chymuned:
“Fel amlygir yng Nghynllun y Cyngor mae sicrhau Gwynedd sy’n lewyrchus yn economaidd ac yn gymdeithasol yn flaenoriaeth allweddol i ni. Mae’r achos hwn ar gyfer Trawsfynydd yn sbardun i gefnogi cyflogaeth gynaliadwy yn yr ardal, i gefnogi busnesau ac i groesawu busnesau ac arloesedd newydd i’r gadwyn gyflenwi yn lleol.”
Dywedodd y Cynghorydd Elfed Powell Roberts, Aelod Lleol dros Trawsfynydd:
“Rwy’n croesawu ac yn cefnogi’r newyddion da fod Cyngor Gwynedd yn cymryd yr awenau gyda’r prosiect hwn.
“Byddai canolfan arloesi, busnes a sgiliau o’r fath yn denu buddsoddiad ac yn creu swyddi o ansawdd i’r hirdymor, sydd eu hangen yn yr ardal hon.”
Yn dilyn cyfarfod y Cabinet bydd achos busnes amlinellol nawr yn cael ei gyflwyno i Uchelgais Gogledd Cymru am gyfraniad o gyllid Cynllun Twf Gogledd Cymru.