Cyfarfod Arbennig o Gyngor Gwynedd
Dyddiad: 06/02/2026
“Y deyrnged fwyaf y gallwn ei dalu i ddewrder y dioddefwyr ydi’r sicrhad a’r addewid o newid a gweithredu”
Mewn cyfarfod arbennig o Gyngor Gwynedd heddiw (5 Chwefror 2026), cafwyd cyfle i holl aelodau’r awdurdod gynnig sylwadau ar gynnwys y Cynllun Ymateb i Adroddiad ‘Cyfiawnder Trwy Ein Dewrder’.
Yn dilyn y cyfarfod heddiw, dywedodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, Arweinydd y Cyngor:
“Mae’r dioddefwyr ar flaen fy meddwl a dwi’n ymddiheuro’n ddiffuant i bawb gafodd eu heffeithio gan y troseddau erchyll hyn. Yn syml, nid yw’n ddigon da na chafodd eu lleisiau eu clywed.
“Mae cynnwys adroddiad ‘Cyfiawnder Trwy Ein Dewrder’ yn ddychrynllyd ac mae darllen am yr hyn ddigwyddodd wedi ysgwyd pobl Gwynedd a’r Cyngor.
“Mae Cyngor Gwynedd ar siwrnai – o fethiant tuag at ein uchelgais o fod yn rhagori yn maes diogelu ein plant.
“Geiriau gwag ydi ymddiheuro i'r goroeswyr os nad ydym o ddifri am weithredu a gwneud yn siŵr fod pethau yn newid. Y deyrnged fwyaf y gallaf ei dalu i'w dewrder ydi’r sicrhad a’r addewid o newid a gweithredu. Ni fydd methiannau o’r math a amlygir yn yr adolygiad yn digwydd eto.
“Trwy weithio gyda’n gilydd – gyda phawb yn rhwyfo i’r un cyfeiriad – gallwn wneud cynnydd gwirioneddol ac amserol yn y maes hanfodol bwysig yma. Ni all unrhyw adran, plaid na unigolyn gyflawni newid ar eu pennau eu hunain, mae’n rhaid gweithio gyda’n gilydd ar draws ffiniau er mwyn sicrhau dyfodol diogel i blant a phobl ifanc y sir.
“Dwi’n ffyddiog fod y Cyngor heddiw wedi cymryd cam arall ar y daith i ddysgu gwersi ac i weithredu er mwyn sicrhau fod trefniadau diogelu plant y sir yn hollol gadarn.
“Daw hyn wedi cyfres o dri pwyllgor arall o’r Cyngor gynhaliwyd dros yr wythnosau diwethaf, lle mae fy nghyd aelodau wedi gwneud gwaith manwl i graffu a herio’r cynllun newydd.
“Rwyf yn ddiolchgar iddynt i gyd am eu hymroddiad diwyro i’r broses bwysig hon.”
Mabwysiadwyd y Cynllun Ymateb gwreiddiol gan Gabinet Cyngor Gwynedd yn Ionawr 2025 ac mae eisoes wedi arwain at newid i drefniadau o fewn y sir. Dros amser, mae’r cynllun wedi esblygu wrth i’r darlun o’r hyn aeth o’i le ddod yn fwy cyflawn.
Yn dilyn cyhoeddi adroddiad ‘Cyfiawnder Trwy Ein Dewrder’ ar 4 Tachwedd 2025, ail-luniwyd y cynllun i adlewyrchu canfyddiadau ac argymhellion yr arbenigwyr yn llawn.
Ar hyd y daith, mae Bwrdd Ymateb – dan gadeiryddiaeth annibynnol cyn Gomisiynydd Plant Cymru yr Athro Sally Holland ac sy’n cynnwys sylwebyddion o sawl corff cenedlaethol – wedi cynnig mewnbwn, cyngor a her i’r Cynllun Ymateb.
Nodiadau
Cyflwynir y Cynllun Ymateb ar ei newydd wedd i Gabinet y Cyngor ar 10 Mawrth 2026 i ystyried ei fabwysiadu’n ffurfiol.
Mae’r Cynllun Ymateb ar ei newydd wedd wedi ei drafod yn y pwyllgorau a’r fforymau canlynol:
- Bwrdd Cynllun Ymateb ar 8 Rhagfyr,
- Grŵp Sicrwydd Gweinidogol ar 22 Ionawr 2026.
Mae gwybodaeth bellach – gan gynnwys dolen i Adroddiad Cyfiawnder Trwy Ein Dewrder – ar gael ar wefan y Cyngor: Canlyniad Adolygiad Ymarfer Plant, Tachwedd 2025