Cabinet Cyngor Gwynedd i flaenoriaethu amddiffyn gwasanaethau a buddsoddi yn y dyfodol er budd pobl Gwynedd
Dyddiad: 04/02/2026
Wythnos nesaf, bydd Cabinet Cyngor Gwynedd yn ystyried adroddiad sy’n argymell gosod cyllideb o £380 miliwn a rhaglen gyfalaf o oddeutu £40 miliwn ar gyfer blwyddyn ariannol 2026/27.
Diolch i gynllunio gofalus dyma’r tro cyntaf ers nifer o flynyddoedd bydd y Cyngor yn gallu osgoi torri gwasanaethau hanfodol.
Mae’r adroddiad yn argymell buddsoddi yn y gwasanaethau mae pobl Gwynedd yn dibynnu arnynt, gan gynnwys gofal plant, cartrefi i bobl hŷn, gofal i bobl ag anableddau dysgu a gwasanaethau iechyd meddwl.
Eleni, bydd modd cynnig mwy o gefnogaeth hefyd i blant sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol a chynyddu cyllidebau Ysgolion Arbennig am y tro cyntaf ers blynyddoedd lawer.
Caiff cyllideb Cyngor Gwynedd ei hariannu gan gyfuniad o grantiau gan Lywodraeth Cymru a’r Dreth Cyngor.
Dywedodd y Cynghorydd Huw Wyn Jones, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Gyllid:
“Eleni, diolch i gytundeb gwleidyddol rhwng Plaid Cymru a’r Llywodraeth, bydd mwy o arian na’r disgwyl i lywodraeth leol.
“Golygai hyn na fydd rhaid i ni dorri gwasanaethau rheng flaen hanfodol eleni, fydd yn rhyddhad i bobl Gwynedd dwi’n siŵr. Yn enwedig felly o gofio ein bod wedi gorfod gwneud £47 miliwn o doriadau dros y ddegawd ddiwethaf.
“Er fod hyn yn newyddion da, rhaid i ni barhau i edrych ar ôl pob ceiniog. Mae costau pethau fel trydan, disel, bwyd a deunyddiau adeiladu yn parhau i godi ac mae mwy o alw nag erioed am ein gwasanaethau.
“Er ein bod yma yng Ngwynedd wedi derbyn mwy na’r disgwyl gan y Llywodraeth, dydi’r cynnydd yn yr arian sy’n dod i fewn dal ddim yn ddigon i dalu am y cynnydd mewn costau. Felly os am osgoi torri gwasanaethau craidd does dim dewis ond codi’r Dreth Cyngor o 4.9%.
“Does yr un ohonom eisiau gorfod cynyddu Treth y Cyngor o gwbl wrth gwrs a rydym wedi gwneud popeth o fewn ein gallu i gadw’r cynnydd hwn mor fychan a phosib heb gosbi pobl sy’n ddibynnol ar wasanaethau’r Cyngor.”
Mae rhai o’r enghreifftiau o gostau ychwanegol mae’r Cyngor yn eu wynebu yn cynnwys:
- mwy o oedolion gydag anableddau dysgu angen cefnogaeth i fyw’n annibynnol, sy’n costio mwy na £1miliwn i’r Cyngor;
- cynnydd yn y galw am ofal preswyl i bobl sydd â anhwylderau iechyd meddwl dwys, sy’n costio mwy na £1 miliwn arall i’r Cyngor;
- gwaith cynnal a chadw hanfodol i adeiladau fel ysgolion, cartrefi henoed, llyfrgelloedd a chanolfannau hamdden, sy’n costio £2 miliwn i’r Cyngor.
Ychwanegodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, Arweinydd Cyngor Gwynedd:
“Er ein bod yn rhoi pob ymdrech i gadw’r Dreth Cyngor mor isel a phosib, rydw i’n gwybod yn iawn fod unrhyw gynnydd yn ychwanegu i’r baich ariannol sydd ar bobl Gwynedd, yn enwedig pobl sy’n ei chael yn anodd yn barod.
“Os ydych yn ei chael yn anodd i dalu eich bil Treth Cyngor, plîs cysylltwch â Gwasanaeth Trethi’r Cyngor i weld beth y gallwn ei wneud i’ch helpu. Mewn rhai amgylchiadau, mae’n bosib gwneud trefniant talu arbennig neu efallai eich bod yn gymwys am ostyngiad neu eithriad. Gallwch gysylltu â’r tîm drwy wefan y Cyngor neu ffonio 01286 682700.
“Mae help hefyd ar gael gyda costau byw eraill, fel sut i hawlio bydd-daliadau, help i gadw’ch cartref yn gynnes a chymorth i fynd ar-lein i ffeindio’r cynigion gorau. Mae llawer o wybodaeth ar wefan Cyngor Gwynedd www.gwynedd.llyw.cymru/CymorthCostauByw neu gallwch fynd i un o’r Hybiau Cymunedol sydd ar draws y sir.”
Cynhelir cyfarfod y Cabinet ddydd Mawrth, 10 Chwefror. Mwy o wybodaeth yma: Rhaglen ar gyfer Y Cabinet ar Dydd Mawrth, 10fed Chwefror, 2026, 1.00 y.h. Bydd y gyllideb derfynol yn cael ei gosod mewn cyfarfod o’r Cyngor Llawn ar 5 Mawrth, 2026. Mwy o wybodaeth yma: Rhaglen ar gyfer Y Cyngor ar Dydd Iau, 5ed Mawrth, 2026, 1.30 y.h.
Nodiadau
Mae cynnydd o 4.9% yn nhreth y Cyngor gyfystyr a chynnydd o £101.48 y flwyddyn i eiddo Band D, neu £1.95 yr wythnos.
Mae cyfraniad i’r Gwasanaeth Tân ac Achub, Comisiynydd Heddlu a Throsedd a chynghorau cymuned y sir yn ychwanegol i hyn.