Buddsoddiad yn dod â bywyd newydd i feysydd chwarae Gwynedd
Dyddiad: 12/02/2026
Mae Cyngor Gwynedd wedi sicrhau cyllid drwy ffynonellau grant Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig i uwchraddio a darparu mwy o gyfarpar chwarae ar draws y Sir.
Mae gwelliannau wedi’u cwblhau mewn nifer o feysydd chwarae, gan gynnwys:
- Cae Glyn, Caernarfon – Siglen fasged (basket swing), sy’n addas ar gyfer plant anabl
- Maes Adloniant ger y Promenâd, Tywyn - Ffrâm amlbwrpas newydd
- Waun, Harlech – Cylchfan sy’n addas i ddefnyddwyr cadair olwyn
- Ffordd y Maer, Pwllheli – Troellwr rhwyd (net spinner)
- Ffordd Cynan, Penrhosgarnedd – Cylchfan sy’n addas i ddefnyddwyr cadair olwyn
- Maes y Môr, Penygroes - Ffrâm amlbwrpas
- Hen Parc sglefrio, Talysarn – Tarmacio wyneb yr hen safle er mwyn galluogi plant i chwarae pêl.
Bydd gwaith pellach hefyd ar y gweill mewn lleoliadau chwarae eraill ar draws y sir.
Mae Tîm Cyfleoedd Gwaith Anabledd Dysgu Cyngor Gwynedd hefyd yn y broses o ddarparu Byrddau Cyfathrebu ar gyfer meysydd chwarae’r sir er mwyn cefnogi ac annog cyfathrebu a sicrhau bod pawb yn gallu mwynhau’r cyfleusterau.
Dywedodd y Cynghorydd June Jones, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Asedau Bwrdeistrefol:
“Wrth i wyliau ysgol hanner tymor agosáu, rydym yn annog plant a theuluoedd i fanteisio ar y cyfleusterau hyn drwy fynd allan i fwynhau’r parciau a’r meysydd chwarae lleol. Maent yn cynnig mannau diogel, hwyliog a chroesawgar i dreulio amser o ansawdd gyda’ch gilydd.
“Mae’r buddsoddiad hwn yn tanlinellu ymrwymiad Cyngor Gwynedd i ddarparu cyfleoedd chwarae cynhwysol a chynaliadwy. Rydym yn parhau i weithio gyda chymunedau lleol i sicrhau bod y cyfleusterau hyn yn cael eu cynnal a’u diogelu ar gyfer y dyfodol.
“Rydym yn annog pawb i barchu’r cyfleusterau hyn er mwyn i’r meysydd chwarae barhau i fod yn ddiogel a hwyliog i blant a theuluoedd i gyd.”
Am fanylion pellach am feysydd chwarae a mannau agored y sir ewch i wefan Cyngor Gwynedd: www.gwynedd.llyw.cymru/caeauchwarae
Nodiadau
Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig (UKSPF) yn cefnogi cyflawni pum cenhadaeth genedlaethol llywodraeth y Deyrnas Unedig yn rhagweithiol: gwthio pŵer allan i gymunedau ym mhobman, gyda phwyslais penodol ar helpu i sbarduno twf economaidd a hyrwyddo cyfleoedd ym mhob rhan o’r Deyrnas Unedig.