Bwrdd Rhaglen Cynllun Ymateb

“Ni allwn am eiliad anghofio am y rhai pwysicaf yng nghanol hyn, sef y pobl ifanc a ddylai fod wedi bod yn ddiogel yn eu hysgol. Holl bwrpas pob cam sy’n cael eu cymryd gennym yw gwneud popeth posib i sicrhau na fydd neb yn dioddef yn yr un modd fyth eto a dyna ddylai fod ar frig ein hystyriaethau pob amser.”

Pwrpas y Bwrdd Rhaglen Cynllun Ymateb ydi edrych, herio a gyrru’r holl ffrydiau gwaith sy’n deillio o’r adolygiadau ac ymchwiliadau yn dilyn troseddau Cyn-Bennaeth Ysgol Friars.

Mae hyn yn bwysig er mwyn rhoi hyder i blant, pobl ifanc a’u teuluoedd bod camau’n cael eu cymryd i ddysgu gwersi o’r achos hwn.

Y Bwrdd

Mae’r Bwrdd yn un annibynnol sy’n cynnwys pobl broffesiynol o sefydliadau eraill fel Estyn, Llywodraeth Cymru, Comisiynydd y Plant ac Arolygaeth Gofal Cymru,felly mae’n gallu edrych ar y gwaith yn wrthrychol, a chynnig her o'r tu allan. Mae’r Bwrdd yn edrych ar effaith y newidiadau mae Cyngor Gwynedd yn eu cyflwyno, ac yn adrodd ar yr hyn sy’n gweithio a’r hyn sydd wedi newid.


Pwy sy'n eistedd ar y Bwrdd Rhaglen Cynllun Ymateb?

Cadeirydd y Bwrdd yw’r Athro Sally Holland, cyn Gomisiynydd Plant Cymru ac arbenigwraig amlwg yn y maes amddiffyn plant. Mae aelodau’r Bwrdd Rhaglen Cynllun Ymateb yn cynnwys:

- Aelodau Cabinet ac uwch swyddogion Cyngor Gwynedd
- Pennaeth Ysgol Friars
- Cadeirydd Corff Llywodraethu Ysgol Friars
- Comisiynydd Plant Cymru presennol
- Cynrychiolwyr Llywodraeth Cymru
- Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru
- Estyn ac Arolygiaeth Gofal Cymdeithasol Cymru.


Sut mae'r Bwrdd Rhaglen Cynllun Ymateb yn gweithio?

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae nifer o adolygiadau wedi cael eu cynnal ar wahanol agweddau o’r achos, gan gynhyrchu nifer o argymhellion. Mae’r argymhellion a’r hyn sydd angen ei wnued i wella petha yn berthnasol i Wasanaethau Plant, Addysg a Llywodraethu Ysgolion, Cynllunio Argyfwng ac Ymateb Brys, Adnoddau Dynol, a swyddogaethau corfforaethol ehangach.

Mae gan y Bwrdd 7 ffrwd gwaith, gyda phob un yn cael ei arwain gan arweinydd penodol.

Cynhelir cyfarfodydd bob yn ail fis, gan roi cyfle i graffu ar y gwaith, herio amserlenni a rhoi barn ar y ffordd ymlaen. Mae Adroddiad diweddariad hefyd yn cael ei gyflwyno gan y Cadeirydd i'r Cabinet bob chwarter.


Agenda a Phapurau y Bwrdd Rhaglen Cynllun Ymateb

Cyfarfod 27 Ebrill 2026
(yn agor mewn tab newydd)
Cyfarfod 2 Mawrth 2026 (yn agor mewn tab newydd)


Gwybodaeth bellach

Fersiwn Syml – Beth sydd wedi newid hyd yma? (Ebrill 2026)
Fersiwn Syml – Beth sydd dal angen ei newid? (Ebrill 2026)
Rhaglen waith llawn y Bwrdd Rhaglen Cynllun Ymateb (yn agor mewn tab newydd)