Rydym eisiau gwneud yn siŵr:
Bod trefniadau cynllunio ac ymateb i argyfwng addas mewn lle, a bod pawb yn gwybod beth i’w wneud mewn sefyllfa argyfwng diogelu.
Beth mae adroddiad Cyfiawnder drwy ein Dewrder yn ei ddweud?
(Hon ydi’r adroddiad gafodd ei chyhoeddi yn dilyn ymchwiliad Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru i droseddau y cyn-bennaeth. (Gweld yr adroddiad (yn agor mewn tab newydd))
- Nid oedd cynllun argyfwng gan yr ysgol, lle bu i’r cyn-bennaeth gam-drin disgyblion.
- Nid oedd yn glir beth oedd angen ei wneud gan fod yr argyfwng yn ymwneud â’r pennaeth.
- Ni chafodd yr heddlu eu galw ar unwaith pan roedd un o ddisgyblion yr ysgol mewn perygl.
- Ni chafodd y cyn-bennaeth ei atal rhag dod i’r ysgol pan gafodd staff wybod am y drosedd.
Beth sydd wedi digwydd yn barod i wella pethau?
- Mae tîm o fewn y Cyngor wedi cyfarfod er mwyn adolygu’r cynllun argyfwng.
- Sgyrsiau efo aelodau staff allweddol i ddeall be aeth o’i le ar ddiwrnod yr arest a sut i wella trefniadau i'r dyfodol.
- Adolygu a chryfhau trefniadau rhannu gwybodaeth sydd eisoes ar waith yn y maes diogelu a chynllunio at argyfyngau.
- Mae cytundeb i gydweithio â’r Heddlu mewn argyfwng. Gall hyn fod yn weithiwr cymdeithasol yn gweithio i’r Heddlu am gyfnod (secondiad) os y byddai angen.
- Mae’r Cyngor yn gweithio gyda gwahanol wasanaethau ac awdurdodau lleol eraill drwy’r Bwrdd Cynllunio Argyfwng Rhanbarthol.
- Mae’r Cyngor wedi creu Cynllun Argyfwng newydd i helpu ysgolion i wybod beth i’w wneud os bydd argyfwng. Cafodd penaethiaid ysgolion gyfle i roi eu barn a’u syniadau wrth ddatblygu’r Cynllun.
- Mae hyfforddiant hefyd wedi’i greu i helpu staff ysgolion i ddeall y Cynllun a beth sydd angen iddynt ei wneud mewn argyfwng. Bydd yr hyfforddiant yn cael ei rannu â staff ysgolion o fis Medi 2026 ymlaen.
Beth fydd Cyngor Gwynedd yn ei wneud erbyn mis Chwefror 2027
- Edrych i ymestyn y Polisi i safleoedd a gwasanaethau eraill o fewn yr awdurdod, er enghraifft, canolfannau hamdden.
Sut fydd Cyngor Gwynedd yn mesur effaith y newidiadau
- Canran y staff ysgolion sydd wedi cael yr hyfforddiant ac sy’n dweud eu bod yn deall y Cynllun ac yn gwybod beth i’w wneud mewn argyfwng.
- Canran ysgolion Gwynedd sydd wedi mabwysiadu Polisi Rheoli Argyfwng.
- Nifer archwiliadau boddhaol o gynlluniau argyfwng ar safleoedd y Cyngor.
