Os ydych yn blentyn sydd yn cael eich cam-drin, neu os ydych yn poeni am blentyn sy'n cael ei gam-drin, cysylltwch â ni:
- 01766 772577 (Rhif allan o oriau: 01248 353551)
- cyfeiriadauplant@gwynedd.llyw.cymru
Os ydych yn berson proffesiynol / asiantaeth sydd angen adrodd neu wneud cais am wasanaeth ar ran plentyn/teulu gofynnwn i chi lenwi y ffurflen gyfeirio a’i hanfon at: cyfeiriadauplant@gwynedd.llyw.cymru
- Lawrlwytho ffurflen gyfeirio plant (fersiwn PDF) (yn agor mewn tab newydd)
- Lawrlwytho ffurflen gyfeirio plant (fersiwn Word) (yn agor mewn tab newydd)
Mwy o wybodaeth
Wyt ti'n cael dy gam-drin - adref neu gan rywun arall? Oes rhywun adref yn cael ei gam-drin? Oes gen ti ffrind sy'n cael ei gam-drin ac angen help?
Gall cam-drin ddigwydd mewn sawl ffordd:
- cam-drin corfforol: taro, ysgwyd, taflu, llosgi neu ddefnyddio meddyginiaeth i wneud drwg i rywun.
- cam-drin emosiynol: gwneud rhywun i deimlo'n ddiwerth, dweud bod neb yn eu caru; codi ofn - bygwth niwed, bod yn gas; ecsploetio i bwrpas rhyw neu waith.
- cam-drin rhywiol: gorfodi rhywun i gymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol gorfodi rhywun i edrych ar a/neu greu deunydd pornograffig. Annog rhywun i ymddwyn mewn ffordd rywiol anaddas.
- esgeulustod: peidio darparu bwyd, lletya dillad addas; peidio amddiffyn rhag niwed neu berygl corfforol, peidio sicrhau mynediad at ofal neu driniaeth feddygol; peidio sicrhau fod plentyn yn derbyn addysg reolaidd.
- ecsploetiaeth: defnyddio plentyn ar gyfer elw ariannol, boddhad rhywiol, llafur neu fantais personol. Gall gynnwys defnyddio ffurfiau creulon a threisgar i orfodi plentyn i gymryd rhan mewn gweithgareddau troseddol neu rhywiol sydd yn aml yn arwain at niwed corfforol ac emosiynol, yn niweidio iechyd corfforol a meddygol, addysg ynghyd â datblygiad moesol a chymdeithasol.
Beth i'w wneud
- Cysylltu â Gwasanaethau Cymdeithasol a dweud beth sy'n digwydd.
Ffôn: 01766 772577
(Rhif allan o oriau: 01248 353551) - E-bost: cyfeiriadauplant@gwynedd.llyw.cymru
- Mewn argyfwng - fel pan fo rhywun yn cael ei daro neu ei gau allan o'r tŷ - ffonio'r heddlu ar 999
- Ffonio Childline ar 0800 1111 neu cer i wefan ChildLine (yn agor mewn tab newydd)
- Gofyn i oedolyn rwyt yn ymddiried ynddo, fel athro, gweithiwr ieuenctid neu ffrind, ffonio ar dy ran. Mae'n rhaid i bobl sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc ddilyn rheolau a phrosesau, ond byddant yn esbonio hyn i ti a dy helpu drwy'r broses.
- Os wyt yn cael dy fwlio, mynd i wefannau Childline (yn agor mewn tab newydd) neu Kidscape (yn agor mewn tab newydd).
Os oes rhywbeth yn dy boeni neu dy ddychryn, ac nad wyt yn siŵr a yw'n gam-drin, siarad â rhywun rwyt yn ei drystio.
Mae camdriniaeth yn golygu gwneud niwed i rywun neu beidio sicrhau nad yw rhywun yn cael niwed. Mae camdriniaeth neu esgeulustod yn gallu digwydd o fewn teulu neu sefydliad, gan bobl sy'n eu hadnabod yn dda, neu yn llai aml gan rywun dieithr.
Os ydych yn gwybod am blentyn sydd mewn peryg o gael ei gam-drin neu sy’n cael ei gam-drin, mae’n bwysig iawn gadael i'r Cyngor neu’r heddlu wybod.
Os yw'r unigolyn mewn perygl uniongyrchol, ffoniwch yr heddlu'n syth - 999.
Os nad, cysylltwch â llinell ffôn Gwasanaethau Cymdeithasol mor fuan â phosib er mwyn rhannu eich pryder.
- Ffôn: 01766 772577 (Rhif allan o oriau: 01248 353551)
- E-bost: cyfeiriadauplant@gwynedd.llyw.cymru
Gweithwyr proffesiynol / asiantaethau
Os ydych yn berson proffesiynol / asiantaeth sydd angen adrodd neu wneud cais am wasanaeth ar ran plentyn/teulu gofynnwn i chi lenwi y ffurflen gyfeirio a’i hanfon at: cyfeiriadauplant@gwynedd.llyw.cymru
- Lawrlwytho ffurflen gyfeirio plant (fersiwn PDF) (yn agor mewn tab newydd)
- Lawrlwytho ffurflen gyfeirio plant (fersiwn Word) (yn agor mewn tab newydd)
Pa wybodaeth fyddai angen ei rannu?
- Beth yw eich pryder a sut ddaeth yn amlwg?
- Beth yw enw'r unigolyn sydd yn dioddef, ei ddyddiad geni, cyfeiriad a manylion y teulu? (os ar gael)
- Pwy sydd wedi achosi pryder i chi ac oes yna dystion eraill?
Beth fydd yn digwydd wedyn?
- Bydd eich galwad yn cael ei gofnodi a gwybodaeth am yr unigolyn yn cael ei wirio i weld a yw'n adnabyddus.
- Bydd gwybodaeth yn cael ei chasglu gan asiantaethau eraill sydd â chysylltiad posib gyda'r unigolyn.
- Ar sail y wybodaeth sydd ar gael bydd penderfyniad yn cael ei wneud i ymchwilio i'ch pryder.
- Gall hyn arwain at waith cynhwysfawr i amddiffyn yr unigolyn rhag dioddef niwed pellach.
Gwybodaeth ddefnyddiol gan Heddlu Gogledd Cymru am Linellau Siriol.
Llinellau cyffuriau | Heddlu Gogledd Cymru (northwales.police.uk) (yn agor mewn tab newydd)
Cyngor a chefnogaeth ddefnyddiol i blant, pobl ifanc a rhieni
Ers 2006, mae 'Thinkuknow' wedi bod yn cadw plant a phobl ifanc yn ddiogel drwy ddarparu addysg ynghylch cam-drin rhywiol a chamfanteisio'n rhywiol. Ei nod yw sicrhau fod gan bawb fynediad i'r wybodaeth ymarferol hon, gan gynnwys plant, pobl ifanc, eu rhieni a'u gofalwyr a'r bobl broffesiynol sy'n gweithio gyda nhw.
Awgrymiadau, cyngor ac adnoddau am e-ddiogelwch i helpu plant a phobl ifanc i gadw'n ddiogel ar-lein.
Helpu rhieni i gadw eu plant yn ddiogel ar-lein
Cadw'ch plentyn yn ddiogel ar-lein
Awgrymiadau a chyngor i gadw'ch plant yn ddiogel ar rwydweithiau cymdeithasol, apiau a gemau. Fel y gall eich plentyn wneud y penderfyniadau iawn gyda'r gefnogaeth iawn ar-lein.
Mae CEOP yno i gadw plant yn ddiogel rhag cam-drin rhywiol a meithrin ar-lein (grooming).
- Ydych chi'n poeni am gam-drin rhywiol ar-lein neu'r ffordd y mae rhywun wedi bod yn cyfathrebu gyda chi ar-lein?
- Ydych chi'n poeni bod eich plentyn yn cael ei feithrin (grooming) ar-lein neu bod rhywun yn camfanteisio'n rhywiol arno/arni?
Dylech ddweud am eich pryderon wrth un o Gynghorwyr Diogelu Plant CEOP.
Dyma'r Strategaeth Lleihau Niwed Alcohol 2025-28 gan y Bwrdd Cynllunio Ardal Gogledd Cymru.
AGRO (Mudiad Adfer Môn a Gwynedd)
Sefydliad gwirfoddol, wedi ei redeg gan bobl mewn adferiad ar gyfer pobl mewn adferiad. Pwrpas AGRO yw hyrwyddo adferiad pobl sydd â phroblemau alcohol a chyffuriau eraill trwy weithgaredd, gan gefnogi teuluoedd, codi ymwybyddiaeth, chwalu stigma a darparu gwybodaeth yn Ynys Môn a Gwynedd.
Cyswllt: www.agro-cymru.org.uk
Be di’r Sgôr?
Mae’r gwasanaeth yma ar gael i bob person ifanc yn y ddwy Sir. Darpariaeth yn cynnig gwybodaeth, cyngor, gwaith wedi ei dargedu a gwaith arbenigol. Gellir hunan gyfeirio at y gwasanaeth. Gall riant gyfeirio hefyd ond mae’n rhaid i’r unigolyn gytuno i gael ei gyfeirio a gweithio gyda’r Gwasanaeth.
Cyswllt:
- bedirsgor@gwynedd.llyw.cymru
- 01248 683029
Caniad
Gwasanaeth Rhanbarthol sy'n gweithio gyda defnyddwyr gwasanaethau camddefnyddio sylweddau ac iechyd meddwl er mwyn sicrhau bod eu llais yn cael ei glywed a chyfrannu tuag at bolisïau/datblygu gwasanaethau ayyb.
Cyswllt:
- Gwefan Caniad
- caniad@caniad.org.uk
- 0800 085 3382
CAIS
Ar gael dros y Gogledd, mae’r Gwasanaeth yma ar gyfer unigolion ble mae camddefnydd alcohol a/neu gyffuriau yn broblem, neu pryd mae defnydd alcohol neu gyffuriau perthynas agos i chi yn cael effaith arnoch. Mae modd hunan gyfeirio at y Gwasanaeth yma ar-lein ar wefan CAIS neu drwy ffonio.
Cyswllt:
- www.cais.co.uk
- 03450612112
OK Rehab
Mae OK Rehab yn arbenigo mewn rehab cyffuriau ac alcohol, a thriniaeth dibyniaeth. Maent yn gweithio mewn partneriaeth gyda dros 140 o sefydliadau ar draws y DU a dramor.
Cyswllt:
- https://www.okrehab.org/ (yn agor mewn tab newydd)
- 0800 326 5559
DAN 24/7
Llinell Gymorth alcohol a chyffuriau cyfrinachol ac am ddim, ni fydd y rhif ffôn yn ymddangos ar fil wedi eitemeiddio eich cartref. Cymorth/sgwrs 24 awr y dydd 365 diwrnod y flwyddyn. Gwybodaeth am wasanaethau/cyffuriau ayyb ar gael ar y wefan.
Cyswllt:
- www.dan247.org.uk
- 08088082234
NACOA
Llinell Gymorth gyfrinachol ac am ddim ar gyfer plant o bob oed sydd angen cymorth a sgwrs oherwydd gor yfed un o’i rhieni/gofalwyr. Ni fydd y rhif ffôn yn ymddangos ar fil wedi eitemeiddio eich cartref.
Cyswllt:
- https://nacoa.org.uk/
- helpline@Nacoa.org.uk
- 08003583456
North Wales Recovery Communities (Penrhyn House)
Yn cefnogi unigolion i sefydlu Adferiad o gam-drin sylweddau trwy ddarparu tai ar sail ymatal a rhaglenni therapiwtig mynediad agored.
Cyswllt:
- http://www.nwrc.info
- contactus@nwrc.info
- 01248 352771
Strategaeth Lleihau Niwed Alcohol Gogledd Cymru
Pan fydd aelod o'r teulu yn cael ei garcharu, mae plant yn aml yn profi pwysau sylweddol a straen emosiynol. Gall y sefyllfa hon arwain at deimladau o arwahanrwydd o fewn ysgolion, ac mae’r tebygolrwydd o wynebu canlyniadau negyddol yn cynyddu, all hyn gael effaith andwyol ar eu dyfodol. Mae hyn hefyd yn effeithio ar blant a theuluoedd sydd â rhiant neu aelod o'r teulu yn ymwneud â rhan arall o'r system cyfiawnder troseddol, nid yn y carchar yn unig. Nod prosiect FABI yw gwella dealltwriaeth o'r heriau a wynebir gan y teuluoedd hyn, hyrwyddo ymdrechion ataliol, a darparu adnoddau penodol a chefnogol heb stigmateiddio.
Teuluoedd yr Effeithir Arnynt gan Garchariad (FABI) yng Ngogledd Cymru