Cyfiawnder Trwy Ein Dewrder
Yn dilyn arestiad a chollfarn cyn-bennaeth Ysgol Friars, Bangor, ym misoedd Medi 2023 a Gorffennaf 2024, cafodd digwyddiadau difrifol iawn eu hamlygu a oedd yn ymwneud â cham-drin plant dros gyfnod o nifer o flynyddoedd.
O ganlyniad i’r digwyddiadau hyn, cynhaliwyd Adolygiad Ymarfer Plant (a enwyd yn Adroddiad Cyfiawnder Trwy ein Dewrder) i archwilio beth ddigwyddodd, sut y cafodd asiantaethau ymateb, a beth y gellir ei ddysgu i wella trefniadau diogelu yn y dyfodol.
Mae’r dudalen hon yn dod â'r holl wybodaeth berthnasol am yr adolygiad at ei gilydd, ynghyd ag ymateb y Cyngor, y canfyddiadau, a’r argymhellion sydd wedi’u nodi. Mae hefyd yn amlinellu’r camau mae Cyngor Gwynedd yn eu cymryd i ymateb i’r hyn a ddigwyddodd ac i gryfhau trefniadau diogelu.
