Rydym eisiau gwneud yn siŵr bod:
Llywodraethwyr ysgolion Gwynedd yn deall eu rôl a'u cyfrifoldebau i gadw plant yn ddiogel. (Grŵp o bobl sy'n gwirfoddoli i reoli ysgol ydi Llywodraethwyr.)
Systemau mewn lle er mwyn mesur lles disgyblion, staff, a diwylliant ehangach ysgolion.
Beth mae adroddiad Cyfiawnder drwy ein Dewrder yn ei ddweud?
(Hon ydi’r adroddiad gafodd ei chyhoeddi yn dilyn ymchwiliad Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru i droseddau y cyn-bennaeth. (Gweld yr adroddiad (yn agor mewn tab newydd))
- Roedd gan y cyn-bennaeth ormod o reolaeth yn yr Ysgol.
- Nid oedd Llywodraethwyr yr ysgol yn teimlo’n hyderus i herio’r Pennaeth. Dywedodd y Llywodraethwyr nad oeddent yn cael anghytuno efo fo, , ac y gallai anghytuno arwain at gael eu gorfodi i adael y corff llywodraethu.
- Roedd yr ysgol yn gweithredu polisïau diogelu oedd wedi eu hysgrifennu gan y Pennaeth, nid Polisi y sir.
- Nid oedd y Llywodraethwyr wedi cael digon o hyfforddiant ar sut i ddiogelu plant.
Beth sydd wedi ei wneud i wella pethau
- Mae hyfforddiant diogelu yn cael ei ddarparu i lywodraethwyr ysgolion Gwynedd. Mae hyfforddiant ychwanegol yn cael ei roi i Gadeiryddion a Llywodraethwyr sy’n gyfrifol am ddiogelu ar bob corff llywodraethu.
- Mae llawlyfr llywodraethwr newydd wedi'i greu ac wedi'i rannu gyda holl Lywodraethwyr Ysgolion Gwynedd.
- Mae’r Cyngor wedi penodi swyddog ychwanegol i gefnogi llywodraethwyr ysgolion.
- Mae rhaglen hyfforddiant i glercod ar gael i pob Corff Llywodraethu Ysgol.
Beth fydd Cyngor Gwynedd yn ei wneud rhwng mis Ionawr 2026 a mis Gorffennaf 2026?
Bydd Cyngor Gwynedd yn:
- Paratoi, datblygu a rhannu rhaglen sefydlog ar gyfer cyrff llywodraethu ysgolion Gwynedd. Bydd y rhaglen yn canolbwyntio ar faterion diogelu lles, ac yn rhoi gwybodaeth iddyn nhw i ddeall sut mae eu hysgol yn gwneud.
- Penodi clerc proffesiynol er mwyn rhoi arweiniad a chymorth pellach i gyrff Llywodraethwyr.
Beth fydd Cyngor Gwynedd yn ei wneud erbyn mis Chwefror 2027
- Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn adolygu trefn llywodraethu ysgolion yng Nghymru. Yn dilyn hynny, bydd y Cyngor yn rhoi y newidiadau fydd eu hangen ar waith.
Sut fydd Cyngor Gwynedd yn mesur effaith y newidiadau
- Arolygon Estyn (Tîm o bobl sy’n ymweld ag ysgolion i weld pa mor dda mae'r ysgol yn gwneud) yn dangos bod pob ysgol yn dilyn y drefn diogelu.
- Mesur pa mor hyderus ydi llywodraethwyr yn dilyn derbyn hyfforddiant diogelu.
