Thema 2: Rheoli Honiadau a Phryderon am Oedolion sy'n gweithio gyda Phlant

Rydym eisiau:

Amddiffyn plant drwy sicrhau bod unrhyw bryderon diogelu yn cael eu cymryd o ddifri ac yn cael sylw’n gyflym.

Gwneud yn siŵr bod Cyngor Gwynedd, Yr Heddlu a’r Bwrdd Iechyd yn gweithio gyda’i gilydd wrth ymateb i bryderon am oedolion sy’n gweithio gyda phlant.


Beth mae adroddiad Cyfiawnder drwy ein Dewrder yn ei ddweud?

(Hon ydi’r adroddiad gafodd ei chyhoeddi yn dilyn ymchwiliad Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru i droseddau y cyn-bennaeth. (Gweld yr adroddiad (yn agor mewn tab newydd))

  • Roedd hi’n anodd dod o hyd i’r ffurflen ar gyfer cyfeirio pryderon diogelu ar y wefan, ac roedd y ffurflen yn anodd i’w ddefnyddio.
  • Ni wnaeth gweithwyr proffesiynol adrodd am eu pryderon.
  • Ni chafodd gwybodaeth ei rannu gyda gweithwyr proffesiynol yn y ffyrdd cywir nac ar yr adeg iawn.
  • Nid oedd pob gweithiwr proffesiynol yn deall y maes yn ddigonol, nac yn deall beth oedd angen ei wneud i ymateb i bryderon diogelu.
  • Nid oedd gwybodaeth diogelu blaenorol yn cael ei ystyried bob tro wrth wneud penderfyniadau.
  • Roedd cynghorau yn anghytuno ar beth ddylai ddigwydd pan oedd pryderon am faterion diogelu yn codi. Nid oedd y bobl iawn yn mynd i’r cyfarfodydd i drafod diogelu ac nid oedd penderfyniadau bob amser yn cael eu rhannu.

Beth sydd wedi ei wneud i wella pethau

  • Mae’r daflen sy’n cael ei ddefnyddio i gofnodi trafodaethau a chyfarfodydd diogelu (‘Strategaeth Rhan 5’) wedi newid. Erbyn hyn, mae unrhyw wybodaeth diogelu blaenorol neu hanesyddol am y plentyn yn cael ei gofnodi a’i rannu.
  • Mae’r ffurflen ar gyfer cyfeirio honiadau o gamdriniaeth bellach ar gael yn fwy amlwg ar wefan y Cyngor ar y dudalen Cam-drin Plant
  • Mae’r Cyngor wedi gwneud yn siŵr bod pob ysgol yn y sir wedi derbyn copi o’r ffurflen ar gyfer cyfeirio honiadau o gamdriniaeth.
  • Mae’r Cyngor wedi addasu trefniadau fel nad ydi’r cyfrifoldeb am benderfyniadau diogelu yn disgyn ar un gweithiwr yn unig. Mae pob cyfeiriad yn cael ei ddarllen gan y Tîm Derbyn Cyfeiriadau, gyda sgwrs wedyn yn cael ei chynnal gyda’r Swyddogion Diogelu.
  • Mae Tîm Diogelu a Llesiant Ysgolion wedi ei sefydlu o'r newydd. Mae’r Tîm yn rhoi gwybodaeth a chefnogaeth i'r Person Diogelu Dynodedig ym mhob ysgol yng Ngwynedd.
  • Ers Ionawr 2025 mae pob ysgol yng Ngwynedd yn cael ymweliad gan y Tîm Diogelu a Llesiant Ysgolion unwaith y flwyddyn. Bydd y Tîm yn edrych ar ddiogelu o fewn yr ysgol, ac yn sicrhau bod posteri a gwybodaeth ar gael, a bod staff yn gwybod sut i ddelio â phryderon.
  • Mae’r Cyngor wedi penodi Swyddog Dynodedig Diogelu (Designated Officer for Safeguarding neu DOS) ychwanegol i helpu efo’r gwaith o dderbyn pryderon am gam-drin plant.
  • Mae cydweithio cryfach rhwng gweithwyr Adran Plant a gweithwyr Adran Addysg Cyngor Gwynedd, gyda chyfarfodydd ar y cyd yn cael eu trefnu yn rheolaidd.
  • Mae’r Adran Plant wedi gwella’r ffordd mae’n gwirio bod plant a theuluoedd yn derbyn cefnogaeth a gwasanaethau o safon dda. (Mae hyn wedi’i nodi mewn dogfen o’r enw’r Fframwaith Sicrhau Ansawdd.)
  • Mae’r Adran Plant wedi prynu system o’r enw “Beam Notes” er mwyn gwneud y broses o gofnodi cyfarfodydd diogelu yn llawer mwy hwylus.

Beth fydd Cyngor Gwynedd yn ei wneud rhwng mis Ionawr 2026 a mis Gorffennaf 2026?

Bydd Cyngor Gwynedd yn:

  • Cryfhau’r cydweithio â’r Heddlu ac asiantaethau perthnasol pan fo materion diogelu yn cael eu cyfeirio.
  • Recriwtio Rheolwr Sicrwydd Ansawdd i wirio bod y rheolau cywir yn cael eu dilyn yn yr Adran Plant.

Beth fydd Cyngor Gwynedd yn ei wneud erbyn mis Chwefror 2027

  • Ei gwneud yn haws i adrodd pryder drwy greu ffurflen gyfeirio ddigidol ar wefan y Cyngor, fel nad oes rhaid lawrlwytho ffurflen PDF a’i hanfon dros e-bost. Mae cynllun ehangach hefyd ar waith i gyflwyno un ffurflen gyfeirio genedlaethol ar gyfer holl gynghorau Cymru, yn hytrach na ffurflenni rhanbarthol sydd yn cael eu defnyddio ar hyn o bryd.

Sut fydd Cyngor Gwynedd yn mesur effaith y newidiadau

  • Adolygiad rheolaidd gan y Bwrdd Diogelu Rhanbarthol o'r cyfeiriadau diogelu plant ("Rhan 5") sy'n cael eu gwneud.
  • Casglu, dadansoddi ac adrodd ar dystiolaeth o hyder staff sydd yn ymwneud â phenderfyniadau diogelu (“Rhan 5”).
Yn ôl i brif dudalen Bwrdd Rhaglen Cynllun Ymateb