Rydym eisiau:
Cefnogi a sefydlogi Ysgol Friars.
Beth mae adroddiad Cyfiawnder drwy ein Dewrder yn ei ddweud?
(Hon ydi’r adroddiad gafodd ei chyhoeddi yn dilyn ymchwiliad Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru i droseddau y cyn-bennaeth. (Gweld yr adroddiad (yn agor mewn tab newydd))
Er nad oes argymhelliad penodol i Ysgol Friars yn unig yn yr Adroddiad, mae’n dangos yn glir fod y cyn-bennaeth wnaeth droseddu yn:
- rheoli pob agwedd o’r ysgol.
- herio unrhyw un a oedd yn codi pryder amdano.
- creu awyrgylch o ofn a diffyg ymddiriedaeth gan gynnwys bwlio disgyblion, rhieni a staff.
Beth sydd wedi digwydd yn barod i wella pethau?
- Penodwyd Pennaeth newydd i arwain yr Ysgol.
- Ers Medi 2023, mae Adran Addysg Cyngor Gwynedd wedi helpu’r ysgol drwy ddarparu staff ychwanegol a chefnogaeth i’r arweinyddiaeth newydd i adolygu’r polisïau.
- Mae disgyblion a staff yr ysgol yn cael cefnogaeth i edrych ar ôl eu llesiant.
- Mae corff llywodraethu’r ysgol wedi newid. Mae pedwar aelod newydd wedi cael eu penodi i gynrychioli’r Cyngor, ac mae clerc newydd yn helpu i drefnu a chadw trefn ar y cyfarfodydd.
Beth fydd Cyngor Gwynedd yn ei wneud rhwng mis Ionawr 2026 a mis Gorffennaf 2026?
- Bydd Cyngor Gwynedd yn cymharu trefniadau gweithredu’r ysgol gyda threfniadau ysgolion eraill y sir er mwyn ystyried a oes angen gwneud unrhyw newidiadau.
Beth fydd Cyngor Gwynedd wedi ei gyflawni erbyn mis Chwefror 2027
- Bydd yr Ysgol wedi cael cyfle pellach i sefydlogi.
Sut fydd Cyngor Gwynedd yn mesur effaith y newidiadau
- Adborth Cyngor yr Ysgol ar ddiogelwch a lles yn yr ysgol wedi ei gasglu a’i ystyried.
