Bwrdd Rhaglen Cynllun Ymateb
Pwrpas y Bwrdd Rhaglen Cynllun Ymateb ydi edrych, herio a gyrru’r holl ffrydiau gwaith sy’n deillio o’r adolygiadau ac ymchwiliadau yn dilyn troseddau Cyn-Bennaeth Ysgol Friars.
Mae’r Bwrdd yn un annibynnol sy’n cynnwys pobl broffesiynol o sefydliadau eraill fel Estyn, Llywodraeth Cymru, Comisiynydd y Plant ac Arolygaeth Gofal Cymru,felly mae’n gallu edrych ar y gwaith yn wrthrychol, a chynnig her o'r tu allan. Mae’r Bwrdd yn edrych ar effaith y newidiadau mae Cyngor Gwynedd yn eu cyflwyno, ac yn adrodd ar yr hyn sy’n gweithio a’r hyn sydd wedi newid. Mae mwy o wybodaeth am aelodaeth a gwaith y Bwrdd ar waelod y dudalen hon.
Mae hyn yn bwysig er mwyn rhoi hyder i blant, pobl ifanc a’u teuluoedd bod camau’n cael eu cymryd i ddysgu gwersi o’r achos hwn.
Y Rhaglen Waith (fesul thema)
Pwy sy'n eistedd ar y Bwrdd Rhaglen Cynllun Ymateb?
Cadeirydd y Bwrdd yw’r Athro Sally Holland, cyn Gomisiynydd Plant Cymru ac arbenigwraig amlwg yn y maes amddiffyn plant.
Mae aelodau’r Bwrdd Rhaglen Cynllun Ymateb yn cynnwys:
- Aelodau Cabinet ac uwch swyddogion Cyngor Gwynedd
- Pennaeth Ysgol Friars
- Cadeirydd Corff Llywodraethu Ysgol Friars
- Comisiynydd Plant Cymru presennol
- Cynrychiolwyr Llywodraeth Cymru
- Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru
- Estyn ac Arolygiaeth Gofal Cymdeithasol Cymru.
Sut mae'r Bwrdd Rhaglen Cynllun Ymateb yn gweithio?
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae nifer o adolygiadau wedi cael eu cynnal ar wahanol agweddau o’r achos, gan gynhyrchu nifer o argymhellion. Mae’r argymhellion a’r hyn sydd angen ei wnued i wella petha yn berthnasol i Wasanaethau Plant, Addysg a Llywodraethu Ysgolion, Cynllunio Argyfwng ac Ymateb Brys, Adnoddau Dynol, a swyddogaethau corfforaethol ehangach.
Mae gan y Bwrdd 7 ffrwd gwaith, gyda phob un yn cael ei arwain gan arweinydd penodol.
Cynhelir cyfarfodydd bob yn ail fis, gan roi cyfle i graffu ar y gwaith, herio amserlenni a rhoi barn ar y ffordd ymlaen. Mae Adroddiad diweddariad hefyd yn cael ei gyflwyno gan y Cadeirydd i'r Cabinet bob chwarter.