Lansio Cronfa Uwchraddio Eiddo Masnachol Canol Trefi Bangor a Pwllheli

Dyddiad: 23/03/2026

Mae Cyngor Gwynedd wedi lansio Cronfa Uwchraddio Eiddo Masnachol Canol Trefi newydd ar gyfer gwelliannau i eiddo masnachol yng nghanol Dinas Bangor a chanol Tref Pwllheli, gyda’r nod o adfywio’r ardaloedd hyn a chreu canol trefi bywiog, deniadol ac atyniadol i bawb.

Gall perchnogion eiddo masnachol sydd wedi’u lleoli o fewn prif ardaloedd masnachol Bangor a Phwllheli ymgeisio am grant rhwng £2,500 a £10,000, gyda’r grant yn cyfrannu hyd at 70% o gost y gwaith.

Bydd y gronfa yn cefnogi gwelliannau cyfalaf i rannau allanol adeiladau sy’n weladwy i’r cyhoedd, er enghraifft:

• gwelliannau i ffabrig allanol yr adeilad
• peintio ac adnewyddu blaen siopau
• uwchraddio ffenestri a drysau
• gosod arwyddion newydd

 Mae’r gronfa yn cael ei hariannu drwy Gronfa Effaith Balchder Bro Llywodraeth y Deyrnas Unedig, ac yn cael ei gweinyddu gan Cyngor Gwynedd fel rhan o’r gwaith i gefnogi economïau lleol a chreu canol trefi mwy deniadol i fusnesau, trigolion ac ymwelwyr.

Dywedodd y Cynghorydd Medwyn Hughes, Aelod Cabinet Economi a Chymuned Cyngor Gwynedd:

“Mae delwedd adeiladau a blaen siopau yn chwarae rhan bwysig wrth greu canol trefi deniadol a bywiog, a mae sicrhau canol trefi llewyrchus sy’n llawn bwrlwm i drigolion ac ymwelwyr i Wynedd yn flaenoriaeth i ni. 

“Drwy’r gronfa hon, rydym yn cynnig cefnogaeth i berchnogion wneud gwelliannau allanol fydd yn cyfrannu at adfywio Bangor a Phwllheli. Ein nod ydi helpu i greu canol trefi sy’n adlewyrchu hyder a dyfodol cadarnhaol, er gwaethaf rhai o’r heriau economaidd maent wedi ei wynebu yn ddiweddar.”

Mae’r gronfa ar agor i geisiadau gyda’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau ar 18 Mai, 2026 am 5pm.

Bydd rhaid cwblhau’r gwaith a ariennir drwy’r gronfa erbyn 31 Rhagfyr, 2026.

Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais ewch i’r wefan: www.gwynedd.llyw.cymru/EiddoMasnacholCanolTrefi