Prosiect Hirael yn cyfuno amddiffyniad rhag llifogydd a chreadigrwydd lleol

Logo Gwynedd
Uned y Wasg, Cyngor Gwynedd

Mae prosiect gwerth bron i £6 miliwn yn ardal Hirael, Bangor wedi ei chwblhau'n ddiweddar sy’n diogelu’r ardal rhag effeithiau llifogydd arfordirol ac ar yr un pryd yn creu gofod mwy deniadol a defnyddiol i’r gymuned leol.

Yn ogystal â’r gwaith yn amddiffyn bron i 200 o eiddo domestig a masnachol rhag llifogydd, mae nifer o welliannau wedi’u gwneud i’r ardal er mwyn gwella profiad trigolion ac ymwelwyr gan gynnwys elfen gelfyddydol sydd wedi ei chwblhau a’i gosod yn ddiweddar.

Comisiynwyd y dylunydd lleol Joseph Conran i greu’r gwaith celf, tra bod y geiriau ar y llechi ar hyd y promenâd wedi’u hysgrifennu gan y bardd lleol, Osian Owen.

Meddai’r artist Joseph Conran:

"Teitl y cerflun yw Olyniaeth, sef gair sy’n disgrifio sut mae natur yn newid dros amser. Mae’n dangos mesen yn egino, gyda’r fesen wedi’i chreu o fwiau cafwyd eu hadeiladau yn yr 1870au ac oedd yn gwarchod cychod ar y Fenai.

“Mae dail y dderwen sy’n tyfu ohono yn ffurfio strydoedd Efrog Newydd a Melbourne, dau o’r dinasoedd pellaf yr oedd llechi yn cael eu hallforio iddynt o Fangor. Mae’r gwaith yn dathlu cymuned Hirael a’u cysylltiad dwfn hefo'r tir a'r môr."

Ychwanegodd y bardd, Osian Owen:

"Fel rhywun a gafodd ei fagu ar lannau’r Fenai ac a fu yn byw ym Mangor am sawl blwyddyn, roeddwn yn awyddus i adlewyrchu treftadaeth ddiwydiannol gyfoethog yr ardal.

“Er fod yr ardal yma yn ganolbwynt byd-eang i’r diwydiant llechi ar un adeg, ‘adra’ oedd o i bobl leol. Dwi’n gobeithio y bydd y geiriau’n atgoffa pobl o gyfraniad arwyddocaol cymunedau dosbarth gweithiol Arfon i’r byd."

Gwaith celf hirael, bangor

Fel rhan o’r prosiect, bu peirianwyr Ymgynghoriaeth Gwynedd Consultancy yn ymweld ag Ysgol Hirael i godi ymwybyddiaeth o effeithiau newid hinsawdd gyda’r disgyblion ac i egluro sut gall gwaith peirianyddol helpu i amddiffyn cymunedau lleol. Bu cydweithio hefyd gyda’r ysgol i ddylunio arwydd newydd ar gyfer y pwynt gwefru e-feiciau a’r uned atgyweirio beiciau ar y promenâd.

Bydd gwaith pellach yn digwydd ar y safle dros yr wythnosau nesaf i gwblhau'r trefniadau Teithio Llesol yn yr ardal. Bydd hyn yn cynnwys cwblhau'r llwybr ar gyfer cerddwyr a beicwyr o amgylch y maes parcio dwyreiniol, ynghyd â gosod rhwystr cyfeirio ac arwyddion cysylltiedig.

Ychwanegodd y Cynghorydd June Jones, Aelod Cabinet Priffyrdd, Peirianneg ac Ymgynghoriaeth Gwynedd Consultancy Cyngor Gwynedd:

Mae’r gwaith atal llifogydd hynod bwysig yma nid yn unig yn helpu i ddiogelu nifer fawr o gartrefi a busnesau ym Mangor, ond mae hefyd wedi creu gofod bendigedig i’r gymuned ac i ymwelwyr.

Mae wedi trawsnewid yr ardal yn llwyr, ac mae’n braf gweld y gwaith celf, yn ogystal â chymaint o bobl yn mwynhau defnyddio’r lle."

Mae’r gwelliannau i’r ardal hefyd yn cynnwys:

  • Llwyfan gwylio newydd i fwynhau golygfeydd panoramig
  • Meinciau cynnal a chadw isel
  • Goleuadau gwell ar hyd y promenâd
  • Biniau ailgylchu a gwastraff
  • Byrddau gwybodaeth
  • Dosbarthwr bagiau baw cŵn
  • Pwynt gwefru e-feiciau
  • Uned atgyweirio beiciau gyda stand beiciau cyhoeddus
  • Mae arwyddion newydd wedi’u gosod i gyfeirio at Lwybr Beicio Cenedlaethol 5 a Llwybr Arfordir Cymru, gan annog teithio llesol drwy’r safle.
  • Nodweddion draenio cynaliadwy (SuDS), megis dwy ‘swale’ a gardd law.
  • Gwarchod ffigysbren hynod oedd yn tyfu o’r hen wal fôr a'i ail leoli yn ofalus, dan oruchwyliaeth arbenigwyr, i leoliad newydd ar Lôn y Traeth.