Lansiad Swyddogol Plant y Nant Penygroes

Logo Gwynedd
Uned y Wasg, Cyngor Gwynedd

Daeth plant, eu teuluoedd, partneriaid a rhanddeiliaid lleol ynghyd yn ddiweddar i ddathlu carreg filltir bwysig i gymuned Penygroes gyda lansiad swyddogol darpariaeth gofal plant Plant y Nant.

Mae’r gwasanaeth wedi ei ddatblygu gan Cyngor Gwynedd drwy nawdd rhaglen gyfalaf Gofal Plant a’r Blynyddoedd Cynnar, Llywodraeth Cymru sy’n cefnogi prosiectau gofal plant newydd a chynnal a gwella’r seilwaith gofal plant a Dechrau’n Deg presennol.

Bu swyddogion ar draws adrannau Cyngor Gwynedd yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru, Llywodraethwyr Ysgol Bro Lleu a phartneriaid eraill i gynllunio a darparu adeilad pwrpasol o safon uchel. Mae'r cyfleuster modern a chroesawgar wedi'i leoli ar safle'r ysgol a bydd yn gwasanaethu plant a theuluoedd lleol am flynyddoedd i ddod.

Mae’r ddarpariaeth yn chwarae rôl bwysig wrth gefnogi plant i gael y dechrau gorau mewn bywyd a helpu teuluoedd i gael mynediad at ofal plant o safon yn eu cymuned.

Roedd y digwyddiad yn gyfle i arddangos y ddarpariaeth newydd a'r cyfleoedd gwerthfawr sydd ar gael i blant a theuluoedd yr ardal. Trefnwyd amrywiaeth o weithgareddau hwyliog a chreadigol i’r plant, a chafodd ymwelwyr gyfle i weld y cyfleusterau a chwrdd â'r tîm sy'n darparu'r gwasanaeth.

Dywedodd y Cynghorydd Menna Trenholme Aelod Cabinet Plant a Chefnogi Teuluoedd Cyngor Gwynedd:

Roedd yn bleser gweld cymaint o deuluoedd, plant ac aelodau'r gymuned yn ymuno â ni i nodi'r achlysur arbennig hwn.

Diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru, mae Plant y Nant yn darparu adnodd gwerthfawr i deuluoedd Penygroes a'r ardal gyfagos, gan sicrhau bod plant yn cael y cyfleoedd gorau i ddysgu, datblygu a ffynnu."