Agoriad swyddogol i Ysgol Ein Harglwyddes newydd gwerth £8.4 miliwn ym Mangor

Logo Gwynedd
Uned y Wasg, Cyngor Gwynedd

Cynhaliwyd seremoni gan Gyngor Gwynedd i nodi agor yr Ysgol Ein Harglwyddes newydd ym Mangor, ble dadorchuddiwyd plac gan gynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru ac Esgobaeth Gatholig Wrecsam.

Mae'r ysgol newydd wedi bod yn croesawu disgyblion ers mis Medi, ac fe’i adeiladwyd ar hen safle Ysgol Glanadda yn y ddinas diolch i fuddsoddiad gwerth £6.5 miliwn gan Raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru, £0.7m drwy'r Rhaglen Gyfalaf ar Gyfer Plant a'r Blynyddoedd Cynnar, a £1.2 miliwn gan Esgobaeth Wrecsam.

Mae'n darparu addysg gynradd i blant Bangor a'r cylch ynghyd â phlant sy'n byw ym mhlwyfi Catholig Rhufeinig Bangor, Bethesda, Porthaethwy a Llangefni.

Roedd cyflwr yr hen ysgol wedi dyddio, a bellach yn anaddas i ddiwallu anghenion addysgol y dyfodol. Roedd lleoliad yr hen ysgol ger ffordd brysur yn golygu fod cael mynediad i’r safle yn gallu bod yn anodd hefyd.

Mae gan yr ysgol newydd le i hyd at 150 o ddisgyblion ac mae'n cynnwys ystod eang o gyfleusterau modern sy'n cefnogi gofynion Cwricwlwm i Gymru, gan gynnwys dosbarthiadau aml-bwrpas, neuadd, caeau chwarae, gofod aml-chwaraeon a chyfleusterau blynyddoedd cynnar a gofal plant.

Roedd cynaliadwyedd wrth galon y prosiect, gyda thechnolegau gwyrdd megis pympiau gwres ffynhonnell aer, paneli solar, inswleiddio uwch a phwyntiau gwefru cerbydau trydan wedi'u cynnwys yn y cynllun. Yn ogystal, ail-ddefnyddiwyd deunyddiau o'r adeilad blaenorol ar brosiectau eraill yn y sir, fel y briciau, llechi a phren yn Ysgol Bontnewydd.

Yn ystod y seremoni, cafodd gwesteion gyfle i glywed gan ddisgyblion am eu profiadau o symud i'r adeilad newydd, cyn mwynhau perfformiadau gan y plant ac ymweld â'r ysgol.

Dywedodd Y Cynghorydd Dewi Jones, Aelod Cabinet Addysg Cyngor Gwynedd:

Mae heddiw yn garreg filltir bwysig i gymuned Ysgol Ein Harglwyddes ac i addysg ym Mangor. Mae'r ysgol newydd hon yn darparu amgylchedd dysgu modern, diogel a chynaliadwy sy'n rhoi'r cyfleoedd gorau posibl i blant ffynnu a chyflawni eu potensial.

Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y prosiect, ac yn arbennig i staff, llywodraethwyr a theuluoedd yr ysgol am eu cefnogaeth a'u hamynedd wrth i'r gwaith fynd rhagddo. Dymunaf bob llwyddiant i gymuned Ysgol Ein Harglwyddes yn eu cartref newydd."

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg, Anna Brychan:

Roeddwn yn falch o agor Ysgol newydd Ein Harglwyddes yn swyddogol, sef prosiect a gafodd ei ariannu drwy Raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru.

Fel Llywodraeth, rydym yn gwybod pa mor bwysig yw hi bod gan bob dysgwr fynediad at amgylcheddau dysgu o ansawdd uchel i gefnogi eu haddysg, eu lles a’u dyheadau ar gyfer y dyfodol.

Nid yn unig y mae adeilad newydd yr ysgol hon yn gynaliadwy ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, mae hefyd wedi buddsoddi’n sylweddol yn y gymuned leol drwy gyfleoedd cyflogaeth, prentisiaethau, hyfforddiant a phrofiad gwaith yn gysylltiedig â’r prosiect.”

Dywedodd Esgob Peter Brignall, Esgob Esgobaeth Wrecsam:

Dymunaf bob bendith a llwyddiant i bawb yn Ysgol Ein Harglwyddes, rŵan ac yn y dyfodol.”

Mae llawer o bobl wedi ein helpu i gyrraedd y diwrnod hwn, ac rydym yn ddiolchgar iawn iddynt oll.

Gwn y bydd yr ysgol hon yn parhau â’i thraddodiad cyfoethog o 150 mlynedd o addysg Gatholig, gan ddarparu’r addysg orau drwy ei hesiampl ei hun, ac nid yn unig drwy’r hyn a addysgir fel pynciau yn yr ystafelloedd dosbarth, ond ar y maes chwarae ac yn y cyfleusterau chwaraeon hir ddisgwyliedig; gan ddatblygu meddyliau, cyrff, ysbrydion ac eneidiau’r bobl ifanc i anelu’n uchel a chyflawni eu potensial llawn.”

Yn ogystal â darparu cyfleusterau addysgol o'r radd flaenaf, bu'r prosiect yn cynnig manteision economaidd a chymunedol sylweddol yn lleol. Roedd 36% o wariant y prosiect o fewn 40 milltir i'r safle ac fe gafodd nifer o bobl ifanc gyfleoedd profiad gwaith a hyfforddiant yn ystod y gwaith adeiladu.