Codi llais i ddileu trais yn erbyn merched

Mae Cyngor Gwynedd yn annog pawb i godi llais er mwyn creu byd lle mae merched a genethod yn ddiogel, cyfartal ac yn cael eu parchu.
Logo Gwynedd
Uned y Wasg, Cyngor Gwynedd

Mae Cyngor Gwynedd yn annog pawb i godi llais er mwyn creu byd lle mae merched a genethod yn ddiogel, cyfartal ac yn cael eu parchu.

Eto eleni, mae Cyngor Gwynedd yn falch o ymuno yn ymgyrch Diwrnod Rhuban Gwyn, sef y mudiad rhyngwladol i ddileu trais yn erbyn merched a genethod.

Os does neb yn herio, does dim yn newid

“Themâu’r diwrnod eleni yw ‘Mae’n cymryd pawb’," meddai'r Cynghorydd Llio Elenid Owen, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd sy’n gyfrifol am Adran Gwasanaethau Corfforaethol. "Os does neb yn herio, does dim yn newid. Mater i bob un ohonom – yn unigolion, sefydliadau, cymunedau, gweithleoedd, ysgolion a gwleidyddion, gyda’n harbenigedd unigryw, dylanwad a’n swyddi – yw gweithio gyda’n gilydd i greu cymdeithas heb drais na cham-drin.

“Dwi’n gobeithio fod yr achrediad Rhuban Gwyn mae’r Cyngor yn ei ddal yn cyfleu’r neges glir ein bod yn cymryd trais yn erbyn menywod o ddifri ac yn defnyddio ein safle i greu newid cadarnhaol, i ddylanwadu ac i wneud gwahaniaeth yn fewnol ac yn allanol.

“Rydym yn annog pawb i godi eu llais a chefnogi rheini sy’n tynnu sylw at sylwadau neu ymddygiad amhriodol.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Dilwyn Morgan, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd sy’n gyfrifol am faes Diogelwch Cymunedol:

“Fel sefydliad achrededig Rhuban Gwyn, mae’r Cyngor wedi ymrwymo i weithio tuag at ddod a trais yn erbyn menywod i ben.

“Ar Ddiwrnod Rhuban Gwyned (25 Tachwedd), bydd Partneriaeth Diogelu Gwynedd a Môn yn lledaenu'r neges ac yn lansio Siarter Diogelu Menywod yn y Nos ym Mhontio, Bangor. Dyma un enghraifft o sut mae’r Cyngor yn cyfrannu at ledaenu’r neges sy’n ganolog i’r ymgyrch hon.”