Lansio Ap i Ofalwyr di-dâl yng Ngwynedd a Ynys Môn

Logo Gwynedd
Uned y Wasg, Cyngor Gwynedd

Mae ap dwyieithog newydd i ofalwyr di-dâl a’u teuluoedd yng Ngwynedd a Ynys Môn wedi ei lansio mewn digwyddiad arbennig yn Storiel, Bangor.

Mewn partneriaeth gyda Cyngor Sir Ynys Môn a Gwasanaeth Cynnal Gofalwyr mae’r Ap AiDi yn adeiladau ar lwyddiant yr ap presennol sydd ar gael i ofalwyr ifanc, ond sydd bellach yn cynnwys gwybodaeth, cymorth a chyngor i holl ofalwyr di-dal yn ogystal â gweithwyr proffesiynol yn y maes.

Mae rhai o nodweddion yr ap yn cynnwys:

  • Gwneud cais am gerdyn gofalwyr
  • Cerdyn adnabod digidol
  • Pecyn gostyngiadau
  • Gwybodaeth am ddigwyddiadau
  • Cysylltiadau defnyddiol
  • Gwybodaeth ddefnyddiol am lesiant, budd-daliadau a hawliau

Roedd y lansiad yn gyfle i ddysgu mwy am yr ap, clywed gan bartneriaid y prosiect a chael cipolwg ar sut y gall y datblygiad newydd hwn helpu i wella profiadau a chanlyniadau i ofalwyr di-dâl.

Aelodau Cabinet yn lansio ap aidi

Dywedodd y Cynghorydd Dilwyn Morgan, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Oedolion, Iechyd a Llesiant:

Braf iawn oedd cael bod yn y digwyddiad yn Storiel i gydnabod cyfraniad amhrisiadwy gofalwyr di-dâl, codi ymwybyddiaeth o'u rôl, a hyrwyddo mynediad gwell at wybodaeth, cyngor a chymorth.

Mae cefnogi iechyd a lles gofalwyr di-dâl yn holl bwysig i ni yma yng Ngwynedd. Roedd gofalwyr yn dweud wrthym eu bod eisiau teclyn lle fyddai gwybodaeth ar gael mewn un man canolog - rhywbeth a fyddai’n syml, yn lleol, yn gefnogol ac yn ymarferol ac rwyf yn hyderus bod yr ap AiDi yn cynnig hynny.

Mae cydweithio gyda phartneriaid wedi bod yn holl bwysig wrth ddatblygu ac ehangu’r ap, a hoffwn ddiolch i Cyngor Sir Ynys Môn a Gwasanaeth Cynnal Gofalwyr Gogledd Cymru am eu cefnogaeth a chydweithrediad.”

Ychwanegodd Linda Kinani o Wasanaeth Cynnal Gofalwyr:

“Mae'r ap newydd hwn yn enghraifft wych o'r hyn y gallwn ei gyflawni drwy gydweithio, ac rydym yn falch o fod wedi bod yn rhan o'i ddatblygiad o'r cychwyn cyntaf er mwyn sicrhau y gall gofalwyr di-dâl ledled Gwynedd, Môn a Conwy gael mynediad at wybodaeth, cyngor a chymorth yn rhwydd."

Gellir lawrlwytho’r Ap am ddim ar eich ffôn clyfar neu lechen.