Mae'r Cyngor yn atgoffa perchnogion cŵn o'u cyfrifoldebau cyfreithiol yn dilyn dau erlyniad diweddar.
Mewn un achos, cafwyd Rhetta Meila yn euog o ganiatáu i gi fynd i mewn i gae chwarae plant yn Marine Parade yn Nhywyn, ardal lle mae cŵn wedi'u gwahardd o dan Orchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus Cyngor Gwynedd (Rheoli Cŵn).
Mewn achos arall, cafwyd Ian Goddard yn euog am fethu â chodi baw ei gi ar Stryd Fawr, Abermaw.
Derbyniodd y ddau unigolyn orchymyn i dalu £508 yr un mewn dirwyon a chostau.
Mae'r achosion hyn yn tanlinellu ymrwymiad y Cyngor i sicrhau bod mannau cyhoeddus yn lân, yn ddiogel ac yn groesawgar i bawb.
Mae Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus (Rheoli Cŵn) wedi bod ar waith yng Ngwynedd ers 2013. O dan y gorchymyn, mae'n drosedd i berson sy'n gyfrifol am gi fynd â'r ci i ardaloedd penodedig lle mae cŵn wedi'u gwahardd, neu ganiatáu i'r ci fynd ar neu aros yn yr ardaloedd hynny. Mae hyn yn cynnwys ardaloedd chwarae plant, tiroedd ysgolion a chaeau chwaraeon dynodedig ledled y sir.
Yn unol â Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014, gall unigolion sy'n methu â chydymffurfio â'r rheolau wynebu Hysbysiad Cosb Benodedig o £100 neu erlyniad a dirwy o hyd at £1,000.

Dywedodd y Cynghorydd June Jones, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Priffyrdd, Peirianneg a YGC sy’n cynnwys Gwasanaethau Stryd:
Mae'r achosion hyn yn anfon neges glir bod Cyngor Gwynedd yn cymryd troseddau sy'n ymwneud â chŵn o ddifrif. Mae baw cŵn a chŵn mewn ardaloedd gwaharddedig yn effeithio ar ddiogelwch, glendid a mwynhad ein mannau cyhoeddus. Byddwn yn parhau i gymryd camau gorfodi lle bo angen er mwyn diogelu ein cymunedau.
“Yn ogystal â gweithredu yn erbyn troseddwyr, byddwn yn gosod arwyddion gorfodaeth newydd sy'n goleuo yn y tywyllwch mewn lleoliadau allweddol ledled y sir. Bydd yr arwyddion hyn yn helpu i godi ymwybyddiaeth bod yr ardaloedd yn cael eu monitro ac yn atgoffa perchnogion cŵn o'u cyfrifoldeb i godi ar ôl eu cŵn.
“Byddwn hefyd yn lansio ymgyrch cyfryngau cymdeithasol ar sianeli Cyngor Gwynedd i atgoffa perchnogion cŵn o'r rheolau sydd mewn grym a'r goblygiadau i'r rhai sy'n methu â chydymffurfio. Ein nod yw annog ymddygiad cyfrifol a helpu i sicrhau bod ein cymunedau, ein parciau a'n mannau cyhoeddus yn lân, yn ddiogel ac yn groesawgar i bawb."
Mae'r Cyngor yn darparu bagiau baw cŵn am ddim o Siopau Gwynedd yng Nghaernarfon, Dolgellau a Phwllheli, yn ogystal ac mewn llyfrgelloedd ledled y sir. Gellir gwaredu bagiau baw cŵn mewn biniau sbwriel cyhoeddus, biniau baw cŵn neu finiau olwyn gwyrdd y cartref.
Anogir trigolion i roi gwybod i'r Cyngor am unrhyw achosion o faeddu gan gŵn neu gŵn mewn ardaloedd lle maent wedi'u gwahardd. Gall Wardeiniaid Gorfodaeth Stryd ymchwilio i adroddiadau lle mae tystiolaeth ar gael.
Mewn rhai achosion, gall dod i gysylltiad â baw cŵn arwain at salwch difrifol megis toxocariasis, a all achosi problemau iechyd gan gynnwys trafferthion golwg.