Lansio ‘Ein Diwylliant, Ein Dyfodol: Cynllun ar gyfer Diwylliant yng Ngwynedd’

Logo Gwynedd
Uned y Wasg, Cyngor Gwynedd

Bob blwyddyn, mae’r sector diwylliant yn cyfrannu dros £316 miliwn i economi Gwynedd, ac yn cynhyrchu gwerth cymdeithasol ychwanegol o dros £178 miliwn.

Er mwyn hybu a sicrhau dyfodol llewyrchus i’r maes, mae Cyngor Gwynedd wedi lansio cynllun sy’n cynnwys 34 o gamau gweithredu fydd yn hybu cydweithio er lles y sector diwylliant.

Bwriad y cynllun ydi gosod gweledigaeth clir, egwyddorion cytûn a chynllun gweithredu ymarferol a fydd yn arwain at gamau pendant.

Cynhaliwyd digwyddiad lansio ym Mangor yn ddiweddar, oedd yn gyfle i sefydliadau ac unigolion sy’n cynrychioli’r maes diwylliant yn lleol ac yn genedlaethol ddod at ei gilydd i drafod, cynllunio a dathlu pwysigrwydd y sector i’r economi ac i lesiant ein cymdeithas.

Digwyddiad Diwylliant Tachwedd 2026

Dywedodd y Cynghorydd R. Medwyn Hughes, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd sy’n gyfrifol am Economi a Chymuned:

Mae diwylliant yn bwysig i Wynedd, ac mae Gwynedd yn bwysig i ddiwylliant Cymru a’r byd. O gelf cyhoeddus i gigs; o eisteddfodau i daith i’r sinema; o fod yn aelod o’r llyfrgell i ddysgu am ein hanes a’n treftadaeth – mae diwylliant yn rhan o’n bywydau ac yn cyfrannu’n tuag at sut rydym yn gweld ein hunain a’r byd o’n cwmpas.

“Rydw i’n falch o’r cynllun pwysig hwn, ac yn gyffrous am yr hyn mae’n ei gynnig i’r sector. Dyma ganlyniad brwdfrydedd y sefydliadau sy’n helpu i gynnal diwylliant yn lleol.

“Cyd-ddatblygwyd y cynllun gyda phartneriaid ar draws y sir. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf rydym wedi cynnal cynadleddau, gweithdai a digwyddiadau cyhoeddus ar draws Gwynedd er mwyn casglu barn ac adeiladu consensws.”

Mynychwyd y digwyddiad lansio yn ogystal gan Heledd Fychan AS, Gweinidog Llywodraeth Cymru Dros Ddiwylliant a Chwaraeon.

Meddai: “Mae diwylliant wrth galon bywyd Cymru – mae'n cyfoethogi ein cymunedau, yn cefnogi swyddi lleol ac yn cyfrannu at ein lles. Mae cynllun Cyngor Gwynedd yn cynnig ffordd ymarferol ac uchelgeisiol i adeiladu ar y cryfderau hynny.

“Edrychaf ymlaen at weld y gwahaniaeth y mae'r camau hyn yn ei wneud, gan ddangos beth ellir ei gyflawni pan fydd cymunedau a phartneriaid yn cyd-weithio.”