Bydd tref Caernarfon yn croesawu un o ddigwyddiadau diwylliannol pwysicaf Cymru ar ddydd Sadwrn, 14 Tachwedd yn Galeri, wrth i Ŵyl Cerdd Dant ymweld â'r dref am y tro cyntaf ers 30 mlynedd.
Mae Cyngor Gwynedd yn falch o gefnogi'r ŵyl drwy Gronfa Datblygu Digwyddiadau Gwynedd, gan gydnabod cyfraniad pwysig y digwyddiad at ddiwylliant, treftadaeth a'r economi leol.
Yr Ŵyl Cerdd Dant yw'r ŵyl gystadleuol undydd fwyaf o'i math yng Nghymru. Mae'n dathlu cyfoeth traddodiadau a threftadaeth Gymreig drwy ystod eang o gystadlaethau a pherfformiadau gan gynnwys Cerdd Dant, Canu Gwerin, Llefaru, Dawnsio Gwerin, cystadlaethau'r delyn a barddoniaeth.
Disgwylir i gannoedd o gystadleuwyr, cefnogwyr ac ymwelwyr deithio i Gaernarfon ar gyfer y digwyddiad, gan roi hwb i'r economi leol a rhoi’r cyfle i arddangos yr ardal leol i bobl o bob cwr o Gymru.
Yn ôl y Cynghorydd Medwyn Hughes, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Economi a Chymuned, mae'n "bleser mawr" cael gweld yr Ŵyl Cerdd Dant yn dychwelyd i Gaernarfon ar ôl tair degawd.
Mae digwyddiadau fel hyn yn chwarae rhan allweddol wrth gryfhau ein cymunedau, hyrwyddo'r Gymraeg a denu ymwelwyr i'r ardal.
Dywedodd hefyd ei fod yn "edrych ymlaen at groesawu'r cystadleuwyr, y perfformwyr a'r ymwelwyr i Gaernarfon ac i Wynedd."
Dywedodd Dafydd Roberts, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Gŵyl Cerdd Dant 2026, fod y "bar wedi ei osod yn uchel i ni yng Nghaernarfon eleni" wedi llwyddiant "diamheuol" Gŵyl Aberystwyth a’r Fro'r llynedd.
"Mae’r Ŵyl, yn naturiol, yn mynd ar ofyn trigolion yr ardal am nawdd, ac rydym yn hynod ddiolchgar am y gefnogaeth hael gan Gyngor Gwynedd, y Cyngor Tref a Chynghorau Cymuned Arfon, yn ogystal â Hwb Caernarfon a nifer o fusnesau lleol," meddai.
"Ar nos Wener hefyd bydd cyfle i ymlacio cyn y cystadlu mewn Sesiwn Werin yng ngwesty’r Celtic Royal, gyda Gwilym Bowen Rhys ac Acordions dros Annibyniaeth - mae'r mynediad am ddim ac mae croeso i bawb!
“Efo heli’n gyfeiliant, cyrraedd y doc mae cerdd dant!” - Rhys Iorwerth.