Cyfle i bobl sydd eisiau gwneud cyfraniad i fywyd cyhoeddus yng Ngwynedd
Dyddiad: 18/03/2026
Mae cyfle unigryw i unigolion sydd â diddordeb mewn safonau ym mywyd cyhoeddus, i gyfrannu at weithrediad Cyngor Gwynedd a’r cynghorau tref a chymuned.
Mae’r Cyngor yn gwahodd ceisiadau i fod yn Aelodau Annibynnol ar ei Bwyllgor Safonau.
Mae'r Pwyllgor Safonau yn chwarae rhan hanfodol wrth hyrwyddo a chynnal safonau uchel o ymddygiad ymhlith aelodau etholedig y Cyngor ac yn darparu arweiniad ar Gôd Ymddygiad y Cyngor.
Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer rôl Aelod Annibynnol, rhaid i ymgeiswyr:
- Beidio â bod yn aelod neu'n swyddog o unrhyw awdurdod lleol.
- Beidio â bod wedi bod yn aelod neu'n swyddog o unrhyw awdurdod lleol yn ystod y deuddeg mis diwethaf.
- Beidio â bod yn briod neu'n bartner sifil i aelod neu swyddog o unrhyw awdurdod lleol.
- Beidio a bod wedi bod yn aelod o Gyngor Gwynedd yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf (neu bum mlynedd mewn rhai achosion)
- Beidio a bod yn gyn swyddog o Gyngor Gwynedd mewn swydd oedd â chyfyngiadau gwleidyddol neu’n swyddog cofrestru yn ystod y dwy flynedd ddiwethaf.
Dywedodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, Arweinydd Cyngor Gwynedd:
“Dyma gyfleoedd unigryw i bobl Gwynedd wneud gwahaniaeth a chael dylanwad o fewn llywodraeth leol y sir.
“Rydym am glywed gan unigolion ymroddedig a brwdfrydig sydd â diddordeb mewn gwasanaethau cyhoeddus. Gall y cyfleoedd gwych yma naill ai i agor y drws i fywyd cyhoeddus, neu fod yn gyfle i rannu profiad ac arbenigedd.
“Os ydych yn berson gwrthrychol, yn gallu meddwl yn annibynnol a gyda sgiliau cyfathrebu da, ystyriwch y cyfleoedd hyn.”
Am fwy o wybodaeth, a manylion sut i ymgeisio, ewch i wefan Cyngor Gwynedd: www.gwynedd.llyw.cymru/PwyllgorSafonau
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 2 Ebrill, 2026.