Rhybudd Cynnwys

Gall cynnwys y dudalen hon beri gofid. Mae gwybodaeth ar y dudalen hon sydd yn cyfeirio at gam-drin plant. Os ydych yn blentyn sy’n cael eich cam-drin, neu os ydych yn poeni am blentyn sy’n cael ei gam-drin, cysylltwch â ni:

Cam-drin plant: Rhoi gwybod am blentyn mewn perygl

Cyhoeddwyd yr Adroddiad Adolygiad Ymarfer Plant gan Fwrdd Diogelu Gogledd Cymru ddydd Mawrth, 4 Tachwedd 2025.

Gweld yr Adroddiad Adolygiad Ymarfer Plant (yn agor mewn tab newydd)

Ymateb i'r adroddiad

Cefndir a rhagor o wybodaeth


Pryder am fater diogelu yng Ngwynedd

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth newydd yn ymwneud â chamdriniaeth plant posib gysylltu’n uniongyrchol â'r Heddlu neu ag Adran Gwasanaethau Cymdeithasol eu cyngor lleol.

Os yw’r person ifanc mewn perygl uniongyrchol, ffoniwch yr Heddlu ar unwaith ar 999.

Os nad yw’r plentyn mewn perygl dybryd, ffoniwch Gwasanaethau Cymdeithasol Gwynedd cyn gynted â phosibl i rannu eich pryderon: 01758 704455 (neu 01248 353551 tu allan i oriau swyddfa). Mae gwybodaeth ar gael ar ein gwefan: Cam-drin plant

Cysylltiadau defnyddiol eraill:

Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru

NSPCC (Cymdeithas Genedlaethol Atal Creulondeb i Blant)
Yn cynnig cyngor a chymorth i unrhyw un sy’n poeni am les plentyn.

Childline
Gwasanaeth cyfrinachol i blant siarad am unrhyw beth sy’n eu poeni.

  • Llinell Gymorth: 0800 1111 (rhad ac am ddim, cyfrinachol, 24/7)
  • Gwefan: Childline.org.uk (yn agor mewn tab newydd)
  • Live Chat: Mae’r wefan yn cynnwys sgwrs fyw lle gall plant a phobl ifanc siarad yn gyfrinachol)

Canolfan Cymorth ar gyfer Trais Rhywiol ac Achosion Cam-drin Rhywiol (RASASC) Gogledd Cymru

Yn darparu cymorth arbenigol, cwnsela, a therapi i unrhyw un 3 oed a hŷn sydd wedi profi cam-drin rhywiol neu drais rhywiol—boed hynny’n ddiweddar neu’n hanesyddol. Hefyd yn cefnogi partneriaid a theuluoedd y rhai sydd wedi’u heffeithio.

Yn gyfrinachol, heb farnu, ac yn rhad ac am ddim.