Cyfiawnder Trwy Ein Dewrder: Cynllun Ymateb Cyngor Gwynedd

Yn dilyn troseddau cyn-bennaeth Ysgol Friars, Bangor, mae Cyngor Gwynedd wedi ymrwymo i wneud popeth posibl i ddysgu gwersi, cryfhau trefniadau diogelu, a sicrhau na fydd unrhyw blentyn yn dioddef yn yr un modd eto.

Mabwysiadwyd Cynllun Ymateb gan y Cyngor ym mis Ionawr 2025 i arwain y gwaith hwn. Mae'r Cynllun yn dod â gwelliannau, ymchwiliadau, adolygiadau a gweithgareddau dysgu ynghyd o dan un rhaglen waith.

Bwrdd Rhaglen Cynllun Ymateb

Mae'r gwaith yn cael ei arwain a'i herio gan Fwrdd Rhaglen annibynnol dan gadeiryddiaeth yr Athro Sally Holland, cyn Gomisiynydd Plant Cymru.

Mae gan y Bwrdd 7 ffrwd gwaith, gyda phob un yn cael ei arwain gan arweinydd penodol.

Aelodaeth y Bwrdd Rhaglen Cynllun Ymateb

Mae’r Bwrdd yn un annibynnol sy’n cynnwys pobl broffesiynol o'r Cyngor a sefydliadau eraill, gan gynnwys:

- Aelodau Cabinet ac uwch swyddogion Cyngor Gwynedd
- Pennaeth Ysgol Friars
- Cadeirydd Corff Llywodraethu Ysgol Friars
- Comisiynydd Plant Cymru presennol
- Cynrychiolwyr Llywodraeth Cymru
- Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru
- Estyn ac Arolygiaeth Gofal Cymdeithasol Cymru.


Agenda a Phapurau y Bwrdd Rhaglen Cynllun Ymateb

Cyfarfod 15 Gorffennaf 2026
(yn agor mewn tab newydd)
Cyfarfod 27 Ebrill 2026 (yn agor mewn tab newydd)
Cyfarfod 2 Mawrth 2026 (yn agor mewn tab newydd)


Adroddiadau Cynnydd Cadeirydd y Bwrdd Ymateb

Adroddiad Chwarterol Gorffennaf 2026
Adroddiad Chwarterol Mawrth 2026
Adroddiad Chwarterol Tachwedd 2025
Adroddiad Chwarterol Gorffennaf 2025


Crynodebau o’r hyn sydd wedi ei gyflawni

Fersiwn Syml – Beth sydd wedi newid hyd yma? (Gorffennaf 2026) (yn agor mewn tab newydd)
Fersiwn Syml – Beth sydd dal angen ei newid? (Gorffennaf 2026) (yn agor mewn tab newydd)


Dogfen Cynllun Ymateb

Cynllun Ymateb Cyngor Gwynedd
Fersiwn Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd


Gwybodaeth bellach

Adolygiad Ymarfer Plant ac Ymchwiliadau eraill