Gwynedd yn dathlu dynodiadau UNESCO ar ben-blwydd y sefydliad

Dyddiad: 17/11/2025

Mae Cyngor Gwynedd yn dathlu cyfraniad ei safleoedd UNESCO i economi a diwylliant y sir wedi i’r sefydliad gyrraedd carreg filltir arbennig dros y penwythnos.

Ym mis Tachwedd mae sefydliad UNESCO (Mudiad Addysgol, Gwyddonol a Ddiwylliannol y Cenhedloedd Unedig) yn nodi 80 mlynedd o hyrwyddo treftadaeth naturiol a diwylliannol.

Mae gan Wynedd ddau Safle Treftadaeth y Byd: Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru (a ddynodwyd yn 2021) a Chestyll a Muriau Tref y Brenin Edward yng Ngwynedd (a ddynodwyd yn 1986).  Yn ogystal, mae Biosffer Dyfi wedi’i gydnabod fel Gwarchodfa Biosffer UNESCO.

Dros y blynyddoedd mae dynodiadau UNESCO wedi denu buddsoddiad sylweddol i Wynedd, ac ers dynodi Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru yn Safle Treftadaeth y Byd yn 2021 mae cyfanswm o dros £38 miliwn wedi ei sicrhau i’r sir drwy ffynonellau megis Llywodraeth y DU, Cadw, Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a phartneriaid eraill.

Mae rhai o’r prosiectau yn cynnwys:

  • ailddatblygu Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis
  • adnewyddu adeilad Yr Aelwyd ym Mlaenau Ffestiniog
  • gwaith cadwraeth sylweddol ar Ysbyty Chwarel Penrhyn, Bethesda
  • gwelliannau canol trefi megis celf cyhoeddus, dodrefn stryd a chynlluniau dehongli
  • adnoddau cymunedol: ardal chwarae aml ddefnydd ym Mlaenau Ffestiniog, uwchraddio Golff Giamocs ym Mhorthmadog a champfa awyr agored yn Llanberis

 Mae Cyngor Gwynedd yn falch hefyd o’i bartneriaeth gyda Cadw a’r dynodiad i Gestyll a Muriau Tref Brenin Edward, gyda Chastell Caernarfon a Chastell Harlech yn denu cannoedd o filoedd o ymwelwyr y flwyddyn.

Dywedodd y Cynghorydd Medwyn Hughes, Aelod Cabinet dros Economi a Chymuned Cyngor Gwynedd:

“Rydym yn hynod o falch o’n dynodiadau Treftadaeth y Byd UNESCO yma yng Ngwynedd.  Mae economi ymweld er budd a lles pobl, amgylchedd, iaith a diwylliant Gwynedd ac Eryri yn greiddiol i’n Cynllun Economi Ymweld Gynaliadwy 2035. 

“Mae'r economi ymweld yn holl bwysig i’r ardal arbennig hon, ond rydym hefyd am sicrhau bod yr ardal a’i rhinweddau arbennig yn cael eu gwarchod a’u diogelu - fel bod yr hyn sydd mor unigryw am yr ardal yn cael eu diogelu ar gyfer heddiw a chenedlaethau’r dyfodol.  Mae statws UNESCO yn arf ychwanegol i sicrhau ein bod gyda’n gilydd a’n partneriaid yn rheoli ein safleoedd mewn ffordd gynaliadwy ar gyfer cenedlaethau i ddod.

“Mae’r dynodiad wedi bod yn sbardun i adfywio economaidd a chymdeithasol yn ein cymunedau, gan roi hwb iddynt ymfalchïo yn eu treftadaeth, tra hefyd yn gwneud gwahaniaeth gweledol yng nghalon y cymunedau llechi.”

Am ragor o wybodaeth am Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru a sut i ymweld â’r atyniadau yn ddiogel ewch i: www.llechi.cymru