Ymestyn gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus Bangor

Dyddiad: 22/12/2025

Mae Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus (GDMC) yng nghanol dinas Bangor wedi’i ymestyn am gyfnod o dair blynedd arall.

Golygai’r gorchymyn, sy’n cael ei weinyddu gan Wasanaeth Diogelwch Cymunedol Cyngor Gwynedd, fod gan yr Heddlu bwerau ychwanegol o fewn yr ardaloedd hyn i fynd i'r afael â materion neu niwsans penodol.

Mae’r Gorchymyn o’r fath wedi bod yn weithredol yn yr ardal ers 2019. Penderfynwyd ei ymestyn yn dilyn cyfnod o ymgynghori yn ystod tymor yr hydref 2025, pryd cafwyd cefnogaeth unfrydol i’r cynnig.

Mae copi llawn o'r gorchymyn a'r ardal sydd wedi'i chynnwys ar gael ar wefan Cyngor Gwynedd: www.gwynedd.llyw.cymru/DiogelwchCymunedol

Bwriad y GDMC yw targedu:

  • Ymddygiad sy'n debygol o beri aflonyddwch, dychryn, niwsans neu boendod
  • Ymdroi mewn cyflwr meddwol o ganlyniad i weithgaredd a ysgogwyd gan alcohol neu gyffuriau
  • Yfed alcohol yn dilyn cais gan yr Heddlu i stopio yfed
  • Loetran neu berfformio o fewn 10 metr o beiriant codi arian.

Mae arwyddion wedi eu gosod mewn ardaloedd allweddol o Fangor yn hysbysu pobl o'r cyfyngiadau.

Dywedodd y Cynghorydd Dilwyn Morgan, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd sy'n gyfrifol am ddiogelwch cymunedol: “Diolch i bawb a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad diweddar a dwi’n hyderus bydd y gorchymyn yn parhau i helpu i wneud Bangor yn le braf i fyw, gweithio ac astudio.

“Mae’r Cyngor yn gweithio'n agos gyda’n partneriaid o Heddlu Gogledd Cymru a'r gymuned ehangach i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol ac mae’r GDMC wedi bod yn arf allweddol i’n helpu i wneud hynny.

“Mae mwyafrif llethol o bobl sy’n byw ym Mangor neu’n ymweld a’r ddinas yn cyfrannu at awyrgylch groesawgar a chadarnhaol, a rydym am weld pobl yn parhau i fwynhau popeth sydd gan Fangor i’w gynnig. Pwrpas y gorchymyn yw ei gwneud yn haws i awdurdodau fynd i'r afael â'r lleiafrif bychan o bobl sy'n ymddwyn yn wrthgymdeithasol.”

Dywedodd y Prif Arolygydd Stephen Pawson o Heddlu Gogledd Cymru: “Mae Heddlu Gogledd Cymru yn llwyr gefnogi ymestyn y GDMC ym Mangor i sicrhau y gallwn barhau i weithio gyda phartneriaid i fynd i'r afael â materion parhaus ar y Stryd Fawr. Mae llawer iawn o waith wedi'i wneud yn yr ardal i adeiladu gwytnwch i droseddau cyfundrefnol difrifol a lleihau troseddu ar y Stryd Fawr. Mae'r gorchymyn yn parhau i fod yn arf hanfodol i barhau â'r gwaith hwn er budd trigolion a busnesau.” 

Nodiadau

  • Hyd uchaf Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus yw tair blynedd. Ar unrhyw adeg cyn iddo ddod i ben, gall y Cyngor eu hymestyn hyd at dair blynedd arall os ydynt o'r farn ei bod yn angenrheidiol i atal yr ymddygiad gwreiddiol rhag digwydd neu ailddigwydd.
  • Cyn ymestyn gorchymyn o’r fath, rhaid ymgynghori â'r heddlu lleol ac unrhyw gynrychiolwyr cymunedol eraill y maent yn eu hystyried yn briodol cyn gwneud.
  • Cynhaliwyd ymgynghoriad ar GDMC Bangor rhwng 20 Hydref a 3 Tachwedd 2025 yn gwahodd aelodau'r cyhoedd, cynghorwyr sir a chynghorwyr dinas i roi eu barn ar y bwriad i ymestyn y Gorchymyn.
  • Roedd pob ymateb dderbyniwyd o blaid ymestyn y gorchymyn presennol am dair blynedd arall.