Strategaeth Wastraff ac Ailgylchu Cyngor Gwynedd 2025-2030
Dyddiad: 04/06/2025
Bydd adroddiad yn cael ei ystyried gan Gabinet Cyngor Gwynedd ar 10 Mehefin a fydd yn gofyn am yr hawl i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar Strategaeth Wastraff ac Ailgylchu’r Cyngor ar gyfer y cyfnod hyd at 2030.
Mae’r Strategaeth ddrafft yn gosod gweledigaeth am sut fyddai’r Cyngor yn cydweithio efo trigolion y sir a phartneriaid allweddol eraill i wella cyfraddau ailgylchu, lleihau effaith amgylcheddol, ac uwchraddio gwasanaethau gwastraff lleol yma yng Ngwynedd.
Dywedodd y Cynghorydd Craig ab Iago, Aelod Cabinet Amgylchedd Cyngor Gwynedd:
“Tra bod yr argyfwng hinsawdd yn her fyd-eang, mae’r atebion yn dechrau’n lleol ac mae cyfle gwirioneddol i ni wneud gwahaniaeth ar y lefel sirol a chenedlaethol yn y maes gwastraff ac ailgylchu.
“Ein nod ydi parhau i dorri’r gwastraff gweddilliol sy’n cael ei greu a’i gasglu yma yng Ngwynedd, a chefnogi unrhyw gyfle i ail-ddefnyddio ac ailgylchu.
“Ers i Gyngor Gwynedd gyflwyno gwasanaethau ailgylchu a gwastraff bwyd, rydym wedi gweld gwelliannau sylweddol yn y canran o ailgylchu yng Ngwynedd, ond mae’n glir fod rhaid i ni barhau i foderneiddio’n trefniadau er mwyn gweld gwelliannau pellach.
“Fel cymdeithas, mae angen i ni newid ein meddylfryd a gweld gwastraff fel adnodd, drwy drwsio ac ail-ddefnyddio deunyddiau cyn ystyried eu hailgylchu a’u taflu, a hynny er mwyn creu economi gylchol gynaliadwy yma yng Ngwynedd.
“Mae’r Strategaeth Wastraff ac Ailgylchu drafft yn gosod allan y camau yr ydan ni wedi eu cynllunio ar gyfer y pum mlynedd i’n helpu i wella lefelau ailgylchu, a hefyd gosod ein stondin ar gyfer ein huchelgais hir-dymor o allu trin â’n gwastraff ac ailgylchu yma yng Ngwynedd.
“Os bydd y Cabinet yn cefnogi’r adroddiad, byddwn yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus yn fuan a byddwn yn awyddus i glywed barn pobl Gwynedd ar ein gweledigaeth ar gyfer y cyfnod hyd at 2030.”
Bydd yr adroddiad yn cael ei ystyried yng Nghabinet Cyngor Gwynedd ar 10 Mehefin. Os bydd y Cabinet yn cefnogi’r bwriad i gynnal cyfnod o ymgynghori cyhoeddus, disgwylir y bydd yr ymgynghoriad yn lansio yn yr wythnosau nesaf a bydd manylion pellach am sut all trigolion Gwynedd a rhanddeiliaid eraill ddweud eu dweud ar yr hyn sy’n cael ei gynnig.
Bydd yr ymatebion i’r ymgynghoriad yn cael ei ystyried wrth baratoi’r Strategaeth derfynol cyn iddi gael ei chyflwyno’n ôl i’r Cabinet i’w mabwysiadu’n ffurfiol yn ddiweddarach eleni.
Am ragor o fanylion am y Strategaeth ddrafft a fydd yn cael ystyriaeth Cabinet Cyngor Gwynedd, ewch i Rhaglen ar gyfer Y Cabinet ar Dydd Mawrth, 10fed Mehefin, 2025, 1.00 y.h.