Storiel yn cynnig cartref newydd i gelf nodwydd hanesyddol o Bont y Borth
Dyddiad: 26/06/2025
Bydd darn o gelf nodwydd sy’n dyddio o’r 19eg ganrif yn aros yma yng Ngwynedd wedi ymgyrch lwyddiannus gan Storiel, Bangor.
Roedd perygl y byddai’r sampler gwaith nodwydd yn gadael Prydain, ond roedd yn cael ei ystyried yn drysor cenedlaethol gan Bwyllgor Adolygu ar Allforio Gweithiau Celf a Gwrthrychau o Ddiddordeb Diwylliannol (RCEWA). Argymhellodd y Pwyllgor fod yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn ataltrwydded allforio dros dro ar y gwaith. Yn y cyfnod yma, llwyddodd Storiel yn ei gais i brynu’r gwaith – gan sicrhau bod y darn hanesyddol ac arwyddocaol yma yn cael ei gadw’n lleol - ac mae bellach ar gael i’r cyhoedd ei weld yn Storiel.
Crëwyd y sampler gwaith nodwydd o’r Bont Borth a chychod yn croesi Afon Menai yn 1829 gan Mary Anne Hughes, merch ysgol 11 oed. Mae'r gwaith yn arwyddocaol i hanes lleol a chenedlaethol fel darlun anghyffredin gan ferch o ysgol gyfagos i'r bont grog enwog. Mae darluniau o bont eiconig Telford ar ffurf tecstil yn brin, ac mae'r gwaith yma yn darlunio ymdeimlad o hunaniaeth leol.
Roedd gwaith nodwydd yn ganolog i addysg merched yn y 19eg ganrif, ac mae sampler o’r fath yn cyfrannu gwybodaeth gwerthfawr am addysgu llythrennedd a sgiliau gwnïo o’r cyfnod.
Dywedodd y Cynghorydd Medwyn Hughes, Aelod Cabinet dros Economi a Chymuned, Cyngor Gwynedd:
“Mae sicrhau eitem fel y sampler yma at ein casgliadau yn cyd-fynd gyda chenhadaeth a gwerthoedd Storiel, sef: casglu eitemau, gofalu amdanynt, eu gwarchod, eu harddangos a’u dehongli ar sail hanes a chymeriad unigryw Gwynedd.
“Rydym am sicrhau bod ein casgliadau yn ysbrydoli ac yn addysgu a’u bod ar gael i bawb eu mwynhau. Mae’r sampler hwn o Bont Borth yn dangos ein huchelgais wrth gaffael a gofalu er budd pobl Gwynedd a Gogledd orllewin Cymru. Rydym yn falch iawn ein bod wedi sicrhau bod y darn yma yn aros yma yng Ngwynedd, yn enwedig wrth i’r bont agosáu at ei 200 mlwyddiant yn 2026.”
Dywedodd Gweinidog y Celfyddydau, Llywodraeth Prydain, Syr Chris Bryant:
"Rwy'n falch iawn y bydd y gwaith nodwydd anhygoel hwn yn cael ei arddangos yng Ngwynedd, fel y gall pobl leol a phobl o bob cwr o Gymru fwynhau a gwerthfawrogi'r ddawn artistig unigryw hon, sy'n darlunio agoriad Pont y Borth.
"Mae'r darn diddorol hwn o gelf gan Mary, merch ysgol 11 oed yn dangos pwysigrwydd sicrhau bod gan bob plentyn fynediad i'r celfyddydau, er mwyn helpu i ryddhau eu potensial llawn."
Ychwanegodd Leanne Manfredi, Arweinydd Rhaglenni Cenedlaethol, Cyngor Celfyddydau Lloegr / Cronfa Brynu V&A, Amgueddfa Victoria and Albert Museum:
“Mae Cronfa Brynu Cyngor Celfyddydau Lloegr / V&A yn cefnogi prynu ystod eang o ddeunyddiau ar gyfer casgliadau parhaol sefydliadau nad ydynt yn cael eu hariannu’n genedlaethol yng Nghymru a Lloegr. Rydym yn hynod falch bod y sampler o Bont y Borth gan Mary Anne Hughes wedi’i gaffael gan Storiel. Bydd o fudd i gynulleidfaoedd am flynyddoedd i ddod oherwydd ei arwyddocâd lleol a’i bwysigrwydd i astudio gwaith nodwydd a llythrennedd y 19eg ganrif.”
Roedd pryniant y sampler yn bosib trwy gyllid gan y Gronfa Brynu Cyngor Celfyddydau Lloegr / V&A a Chyfeillion Storiel. Mae diolch hefyd i Sotheby’s, Amgueddfa Cymru ac Ymddiriedolaeth Genedlaethol am eu cefnogaeth a’u cyngor trwy gydol y broses.
Mae’r sampler yn cael ei arddangos gyda enghreifftiau o sampleri eraill yn yr Oriel Cysylltiadau, llawr isaf Storiel hyd nes 2 Ionawr, 2026. Bydd y gwaith yna yn symud i arddangosfa yn yr Oriel Gymunedol i ddathlu 200 mlwyddiant y Bont.
Mae mynediad i Storiel am ddim ac mae croeso i bawb.
Am ragor o wybodaeth ymwelwch â gwefan Storiel: www.storiel.cymru